Numeri 6:22-27
Numeri 6:22-27 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dwed wrth Aaron a’i feibion mai dyma sut maen nhw i fendithio pobl Israel: ‘Boed i’r ARGLWYDD eich bendithio chi a’ch amddiffyn chi. Boed i’r ARGLWYDD wenu’n garedig arnoch chi, a bod yn hael tuag atoch chi. Boed i’r ARGLWYDD fod yn dda atoch chi, a rhoi heddwch i chi.’ Bydda i’n bendithio pobl Israel wrth i Aaron a’i feibion wneud hyn ar fy rhan i.”
Numeri 6:22-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth Aaron a'i feibion, ‘Yr ydych i fendithio pobl Israel a dweud wrthynt: “ ‘Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio a'th gadw; bydded i'r ARGLWYDD lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt; bydded i'r ARGLWYDD edrych arnat, a rhoi iti heddwch.’ “Felly gosodant fy enw ar bobl Israel, a byddaf finnau'n eu bendithio.”
Numeri 6:22-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Fel hyn y bendithiwch feibion Israel, gan ddywedyd wrthynt, Bendithied yr ARGLWYDD di, a chadwed di: A llewyrched yr ARGLWYDD ei wyneb arnat, a thrugarhaed wrthyt: Dyrchafed yr ARGLWYDD ei wyneb arnat, a rhodded i ti dangnefedd. Felly y gosodant fy enw ar feibion Israel, a mi a’u bendithiaf hwynt.