Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 6

6
Y Nasareaid
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2“Dwed wrth bobl Israel:
“Pan mae dynion neu wragedd yn addo ar lw i fyw fel Nasareaid, a chysegru eu hunain i’r ARGLWYDD, 3rhaid iddyn nhw ymwrthod yn llwyr â gwin a diod feddwol. Rhaid iddyn nhw beidio yfed finegr wedi’i wneud o win, na hyd yn oed yfed sudd grawnwin. A rhaid iddyn nhw beidio bwyta grawnwin na rhesins. 4Tra maen nhw wedi cysegru eu hunain, rhaid iddyn nhw beidio bwyta unrhyw beth sydd wedi tyfu ar y winwydden – dim hyd yn oed croen neu hadau’r grawnwin. 5Rhaid iddyn nhw hefyd beidio torri eu gwalltiau yn y cyfnod yma, am eu bod wedi cysegru eu hunain i’r ARGLWYDD. Rhaid iddyn nhw adael i’w gwallt dyfu’n hir. 6Rhaid iddyn nhw hefyd beidio mynd yn agos at gorff marw tra maen nhw wedi cysegru eu hunain i’r ARGLWYDD 7– hyd yn oed os ydy tad, mam, brawd neu chwaer un ohonyn nhw yn marw. Mae’r arwydd fod y person hwnnw wedi cysegru ei hun i’r ARGLWYDD ar ei ben. 8Maen nhw i gysegru eu hunain yn llwyr i’r ARGLWYDD drwy gydol y cyfnod yma.
9“Os ydy rhywun yn syrthio’n farw wrth ymyl un ohonyn nhw, ac yn achosi i’w ben gael ei lygru, rhaid aros saith diwrnod, ac yna siafio’r pen ar ddiwrnod y puro. 10Yna’r diwrnod wedyn mynd â dwy durtur neu ddwy golomen at fynedfa pabell presenoldeb Duw, i’w rhoi i’r offeiriad. 11Bydd yr offeiriad yn eu cyflwyno nhw – un yn offrwm puro a’r llall yn offrwm i’w losgi. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau’n iawn rhyngddo a Duw ar ôl i’r corff marw ei wneud yn euog. Wedyn bydd yn ailgysegru ei hun y diwrnod hwnnw. 12Bydd rhaid iddo ddechrau o’r dechrau, a chyflwyno oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gyfaddef bai. Fydd y dyddiau oedd wedi’u cyflawni cyn i’r person gael ei wneud yn aflan gan y corff marw ddim yn cyfrif.
13“Dyma’r ddefod ar gyfer Nasareaid: Ar ddiwedd y cyfnod pan oedden nhw wedi cysegru eu hunain, rhaid mynd â nhw at fynedfa pabell presenoldeb Duw, 14a chyflwyno’r offrymau canlynol i’r ARGLWYDD: oen gwryw blwydd oed sydd â dim byd o’i le arno yn offrwm i’w losgi’n llwyr, oen banw blwydd oed sydd â dim byd o’i le arni yn offrwm puro, ac un hwrdd sydd â ddim byd o’i le arno yn offrwm i gydnabod daioni’r ARGLWYDD. 15Hefyd, basged o fara heb furum ynddo, cacennau o flawd mân wedi’i gymysgu gydag olew olewydd, bisgedi tenau wedi’u brwsio gydag olew olewydd, a’r offrymau o rawn a diod sydd i fynd gyda nhw. 16Bydd yr offeiriad yn cyflwyno’r rhain i gyd i’r ARGLWYDD – sef yr offrwm puro a’r offrwm i’w losgi’n llwyr. 17Yna’r hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni’r ARGLWYDD, gyda’r fasged o fara heb furum ynddo. A rhaid iddo hefyd gyflwyno’r offrymau o rawn a diod.
18“Ar ôl hynny, rhaid i’r Nasaread siafio’i ben wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw. Yna cymryd ei wallt, a’i roi ar y tân lle mae’r offrwm i gydnabod daioni’r ARGLWYDD yn llosgi. 19Ar ôl i ben y Nasaread gael ei siafio, rhaid i’r offeiriad gymryd ysgwydd yr hwrdd wedi iddo gael ei ferwi, un o’r cacennau ac un o’r bisgedi tenau sydd heb furum ynddyn nhw, a’u rhoi nhw i gyd yn nwylo’r Nasaread. 20Wedyn mae’r offeiriad i’w chwifio nhw o flaen yr ARGLWYDD. Mae’r darnau yma’n cael eu cysegru a’u rhoi i’r offeiriad, gyda’r frest a rhan uchaf y goes ôl sy’n cael ei chwifio. Ar ôl mynd drwy’r ddefod yma, bydd y Nasaread yn cael yfed gwin eto. 21Dyma ddefod y Nasaread. Dyma’i offrwm i’r ARGLWYDD ar ôl cysegru ei hun, heb sôn am unrhyw beth arall mae wedi’i addo i’r ARGLWYDD. Rhaid iddo wneud beth bynnag roedd wedi’i addo pan oedd yn mynd drwy’r ddefod o gysegru ei hun.”
Y Fendith Offeiriadol
22Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 23“Dwed wrth Aaron a’i feibion mai dyma sut maen nhw i fendithio pobl Israel:
24‘Boed i’r ARGLWYDD eich bendithio chi
a’ch amddiffyn chi.
25Boed i’r ARGLWYDD wenu’n garedig arnoch chi,
a bod yn hael tuag atoch chi.
26Boed i’r ARGLWYDD fod yn dda atoch chi,
a rhoi heddwch i chi.’
27Bydda i’n bendithio pobl Israel wrth i Aaron a’i feibion wneud hyn ar fy rhan i.”

Dewis Presennol:

Numeri 6: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda