Numeri 27:18-20
Numeri 27:18-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma’r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i eisiau i ti gymryd Josua fab Nwn – dyn sydd â’r Ysbryd ynddo – a’i gomisiynu e i’r gwaith drwy osod dy law arno. Gwna hyn yn gyhoeddus o flaen Eleasar yr offeiriad a’r bobl i gyd. Maen nhw i weld dy fod wedi trosglwyddo’r awdurdod sydd gen ti iddo fe, ac wedyn byddan nhw’n ufuddhau iddo.
Numeri 27:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cymer Josua fab Nun, dyn sydd â'r ysbryd ynddo, a gosod dy law arno; pâr iddo sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad ac o flaen yr holl gynulliad, a rho iddo siars yn eu gŵydd hwy. Rho iddo gyfran o'th awdurdod di, er mwyn i holl gynulliad pobl Israel ufuddhau iddo.
Numeri 27:18-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cymer atat Josua mab Nun, y gŵr y mae yr ysbryd ynddo, a gosod dy law arno; A dod ef i sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa; a dod orchymyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt. A dod o’th ogoniant di arno ef, fel y gwrandawo holl gynulleidfa meibion Israel arno.