Numeri 11:4-6
Numeri 11:4-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd yna griw cymysg o bobl yn eu plith nhw yn awchu am fwyd. Roedd pobl Israel yn crio eto, ac yn cwyno, “Pam gawn ni ddim cig i’w fwyta? Pan oedden ni yn yr Aifft, roedd gynnon ni ddigonedd o bysgod i’w bwyta, a phethau fel ciwcymbyrs, melons, cennin, nionod a garlleg. Ond yma does dim byd yn apelio aton ni. Y cwbl sydd gynnon ni ydy’r manna yma!”
Numeri 11:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dechreuodd y lliaws cymysg oedd yn eu mysg chwantu bwyd, ac wylodd pobl Israel eto, a dweud, “Pwy a rydd inni gig i'w fwyta? Yr ydym yn cofio'r pysgod yr oeddem yn eu bwyta yn rhad yn yr Aifft, a'r cucumerau, y melonau, y cennin, y wynwyn a'r garlleg; ond yn awr, darfu am ein harchwaeth, ac nid oes dim i'w weld ond manna.”
Numeri 11:4-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r lliaws cymysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr: a meibion Israel hefyd a ddychwelasant, ac a wylasant, ac a ddywedasant, Pwy a rydd i ni gig i’w fwyta? Cof yw gennym y pysgod yr oeddem yn ei fwyta yn yr Aifft yn rhad, y cucumerau, a’r pompionau, a’r cennin, a’r winwyn, a’r garlleg: Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn ein golwg.