Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 11

11
Y tân yn Tabera
1Dyma’r bobl yn dechrau cwyno fod bywyd yn galed, ac roedd yr ARGLWYDD yn flin pan glywodd nhw. Roedd e wedi gwylltio’n lân gyda nhw. A dyma dân yr ARGLWYDD yn dod ac yn dinistrio cyrion y gwersyll. 2Roedd y bobl yn gweiddi ar Moses i’w helpu nhw. A dyma Moses yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma’r tân yn diffodd. 3A dyma fe’n galw’r lle hwnnw yn Tabera, sef “Lle’r Llosgi”, am fod tân yr ARGLWYDD wedi’u llosgi nhw yno.
Y bobl yn cwyno eto
4Roedd yna griw cymysg o bobl yn eu plith nhw yn awchu am fwyd. Roedd pobl Israel yn crio eto, ac yn cwyno, “Pam gawn ni ddim cig i’w fwyta? 5Pan oedden ni yn yr Aifft, roedd gynnon ni ddigonedd o bysgod i’w bwyta, a phethau fel ciwcymbyrs, melons, cennin, nionod a garlleg. 6Ond yma does dim byd yn apelio aton ni. Y cwbl sydd gynnon ni ydy’r manna yma!” 7(Roedd y manna yn edrych fel had coriander, lliw resin golau, golau. 8Byddai’r bobl yn mynd allan i’w gasglu, ac yna’n gwneud blawd ohono gyda melinau llaw, neu drwy ei guro mewn mortar. Yna’n ei ferwi mewn crochan, a gwneud bara tenau ohono. Roedd yn blasu’n debyg i olew olewydd. 9Roedd y manna’n disgyn ar lawr y gwersyll dros nos gyda’r gwlith.)
10Dyma Moses yn clywed y bobl i gyd yn crio tu allan i’w pebyll. Roedd yr ARGLWYDD wedi digio go iawn gyda nhw, ac roedd Moses yn gweld fod pethau’n ddrwg. 11A dyma Moses yn gofyn i’r ARGLWYDD, “Pam wyt ti’n trin fi mor wael? Beth dw i wedi’i wneud o’i le? Mae’r bobl yma’n ormod o faich! 12Ydyn nhw’n blant i mi? Ai fi ddaeth â nhw i’r byd? Ac eto ti’n disgwyl i mi eu cario nhw, fel tad maeth yn cario’i blentyn! Ti’n disgwyl i mi fynd â nhw i’r wlad wnest ti addo ei rhoi i’w hynafiaid. 13Ble dw i’n mynd i ddod o hyd i gig i’w roi i’r bobl yma i gyd? Maen nhw’n cwyno’n ddi-stop, ‘Rho gig i ni i’w fwyta! Dŷn ni eisiau cig!’ 14Mae’r cwbl yn ormod i mi! Alla i ddim gwneud hyn ar fy mhen fy hun. 15Os mai fel yma rwyt ti am fy nhrin i, byddai’n well gen i farw! Gwna ffafr â mi a lladd fi nawr! Alla i gymryd dim mwy!”
16A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Galw saith deg o arweinwyr Israel at ei gilydd – dynion cyfrifol rwyt ti’n gwybod amdanyn nhw. Tyrd â nhw i sefyll gyda ti o flaen pabell presenoldeb Duw. 17Bydda i’n dod i lawr i siarad â ti yno. Bydda i’n cymryd peth o’r Ysbryd sydd arnat ti, ac yn ei roi arnyn nhw. Wedyn byddan nhw’n cymryd peth o’r baich oddi arnat ti – fydd dim rhaid i ti gario’r cwbl dy hun.
18“A dwed wrth y bobl am fynd drwy’r ddefod o buro’u hunain erbyn yfory. Dwed wrthyn nhw, ‘Byddwch chi’n cael cig i’w fwyta. Mae’r ARGLWYDD wedi’ch clywed chi’n crio ac yn cwyno, ac yn dweud, “Pwy sy’n mynd i roi cig i ni i’w fwyta? Roedd bywyd yn well yn yr Aifft!” Wel, mae’r ARGLWYDD yn mynd i roi cig i chi i’w fwyta. 19Dim jest am ddiwrnod neu ddau, na hyd yn oed pump, deg neu ddau ddeg! 20Byddwch chi’n ei fwyta am fis cyfan. Yn y diwedd, bydd e’n dod allan o’ch ffroenau chi! Byddwch chi mor sâl, byddwch chi’n chwydu cig! Am eich bod chi wedi dangos diffyg parch at yr ARGLWYDD sydd gyda chi, a chwyno o’i flaen, “Pam wnaethon ni adael yr Aifft?”’”
21“Mae yna chwe chan mil o filwyr traed o’m cwmpas i,” meddai Moses, “a ti’n dweud dy fod yn mynd i roi digon o gig iddyn nhw ei fwyta am fis cyfan! 22Hyd yn oed petaen ni’n lladd yr anifeiliaid sydd gynnon ni i gyd, fyddai hynny ddim digon! Neu’n dal yr holl bysgod sydd yn y môr! Fyddai hynny’n ddigon?” 23A dyma’r ARGLWYDD yn ateb, “Wyt ti’n meddwl mod i’n rhy wan? Cei weld ddigon buan a ydw i’n dweud y gwir!”
24Felly dyma Moses yn mynd allan a dweud wrth y bobl beth ddwedodd yr ARGLWYDD. A dyma fe’n casglu saith deg o’r arweinwyr a’u gosod i sefyll o gwmpas y Tabernacl. 25A dyma’r ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, ac yn siarad â nhw. A dyma fe’n cymryd peth o’r Ysbryd oedd ar Moses, a’i roi ar y saith deg arweinydd. Pan ddaeth yr Ysbryd arnyn nhw, dyma nhw’n proffwydo. Ond dyna oedd yr unig adeg wnaethon nhw hynny.
26Roedd yna ddau ddyn, Eldad a Medad, wedi aros yn y gwersyll. (Roedd y ddau ohonyn nhw ar restr yr arweinwyr, ond ddim wedi mynd at y Tabernacl.) A dyma’r Ysbryd yn dod arnyn nhw hefyd, a dyma nhw’n dechrau proffwydo lle roedden nhw, yn y gwersyll. 27Dyma ddyn ifanc yn rhedeg at Moses a dweud wrtho, “Mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll!” 28Felly dyma Josua fab Nwn, un o’r dynion ifanc roedd Moses wedi’u dewis i’w wasanaethu, yn dweud, “Moses, meistr! Gwna iddyn nhw stopio!” 29Ond dyma Moses yn ei ateb, “Wyt ti’n eiddigeddus drosto i? O na fyddai pobl Dduw i gyd yn broffwydi! Byddwn i wrth fy modd petai’r ARGLWYDD yn rhoi ei Ysbryd arnyn nhw i gyd!” 30Yna dyma Moses ac arweinwyr Israel yn mynd yn ôl i’r gwersyll.
Yr ARGLWYDD yn anfon Soflieir
31Dyma’r ARGLWYDD yn gyrru gwynt wnaeth gario soflieir o gyfeiriad y môr, a gwneud iddyn nhw ddisgyn o gwmpas y gwersyll. Roedd yna soflieir am filltiroedd i bob cyfeiriad, yn hedfan tua metr a hanner uwch wyneb y ddaear. 32Buodd y bobl wrthi ddydd a nos y diwrnod hwnnw, a’r diwrnod wedyn, yn casglu’r soflieir. Wnaeth neb gasglu llai na llond deg basged fawr!#11:32 Hebraeg, “deg homer”. Cyfaint 1 homer oedd tua 50 galwyn. A dyma nhw’n eu gosod nhw allan ym mhobman o gwmpas y gwersyll. 33Ond tra oedden nhw’n bwyta’r cig, a prin wedi dechrau’i gnoi, dyma’r ARGLWYDD yn dangos mor ddig oedd e, ac yn gadael i bla ofnadwy daro’r bobl. 34Felly cafodd y lle ei alw yn Cibroth-hattaäfa (sef ‘Beddau’r Gwancus’), am mai dyna lle cafodd y bobl oedd yn awchu am gig eu claddu.
35Yna dyma’r bobl yn teithio ymlaen o Cibroth-hattaäfa i Chatseroth, ac aros yno.

Dewis Presennol:

Numeri 11: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda