Numeri 11:11-15
Numeri 11:11-15 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
A dyma Moses yn gofyn i’r ARGLWYDD, “Pam wyt ti’n trin fi mor wael? Beth dw i wedi’i wneud o’i le? Mae’r bobl yma’n ormod o faich! Ydyn nhw’n blant i mi? Ai fi ddaeth â nhw i’r byd? Ac eto ti’n disgwyl i mi eu cario nhw, fel tad maeth yn cario’i blentyn! Ti’n disgwyl i mi fynd â nhw i’r wlad wnest ti addo ei rhoi i’w hynafiaid. Ble dw i’n mynd i ddod o hyd i gig i’w roi i’r bobl yma i gyd? Maen nhw’n cwyno’n ddi-stop, ‘Rho gig i ni i’w fwyta! Dŷn ni eisiau cig!’ Mae’r cwbl yn ormod i mi! Alla i ddim gwneud hyn ar fy mhen fy hun. Os mai fel yma rwyt ti am fy nhrin i, byddai’n well gen i farw! Gwna ffafr â mi a lladd fi nawr! Alla i gymryd dim mwy!”
Numeri 11:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd wrth yr ARGLWYDD, “Pam y gwnaethost dro gwael â'th was? Pam na chefais ffafr yn dy olwg, fel dy fod wedi gosod baich yr holl bobl hyn arnaf? Ai myfi a feichiogodd ar yr holl bobl hyn? Ai myfi a'u cenhedlodd? Pam y dywedi wrthyf, ‘Cluda hwy yn dy fynwes, fel y bydd tadmaeth yn cludo plentyn sugno, a dos â hwy i'r wlad y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'w hynafiaid’? O ble y caf fi gig i'w roi i'r holl bobl hyn? Y maent yn wylo ac yn dweud wrthyf, ‘Rho inni gig i'w fwyta.’ Ni allaf gario'r holl bobl hyn fy hunan; y mae'r baich yn rhy drwm imi. Os fel hyn yr wyt am wneud â mi, yna lladd fi yn awr, os wyf i gael ffafr yn dy olwg, rhag i mi weld fy nhrueni.”
Numeri 11:11-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dywedodd Moses hefyd wrth yr ARGLWYDD, Paham y drygaist dy was? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg, gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf? Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a’u cenhedlais, fel y dywedech wrthyf, Dwg hwynt yn dy fynwes, (megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno,) i’r tir a addewaist trwy lw i’w tadau? O ba le y byddai gennyf fi gig i’w roddi i’r holl bobl hyn? canys wylo y maent wrthyf, gan ddywedyd, Dod i ni gig i’w fwyta. Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn; canys rhy drwm ydyw i mi. Ac os felly y gwnei i mi, atolwg, gan ladd lladd fi, os cefais ffafr yn dy olwg di; fel na welwyf fy nrygfyd.