Nehemeia 1:4-7
Nehemeia 1:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan glywais hyn eisteddais i lawr ac wylo, a bûm yn galaru ac yn ymprydio am ddyddiau, ac yn gweddïo ar Dduw y nefoedd. Dywedais, “O ARGLWYDD Dduw y nefoedd, y Duw mawr ac ofnadwy, sy'n cadw cyfamod ac sy'n ffyddlon i'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion, yn awr bydded dy glust yn gwrando a'th lygaid yn agored i dderbyn y weddi yr wyf fi, dy was, yn ei gweddïo o'th flaen ddydd a nos, dros blant Israel, dy weision. Yr wyf yn cyffesu'r pechodau a wnaethom ni, bobl Israel, yn dy erbyn; yr wyf fi a thŷ fy nhad wedi pechu yn dy erbyn, ac ymddwyn yn llygredig iawn tuag atat trwy beidio â chadw'r gorchmynion a'r deddfau a'r cyfreithiau a orchmynnaist i'th was Moses.
Nehemeia 1:4-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan glywais hyn i gyd, dyma fi’n eistedd i lawr. Rôn i’n crio ac yn galaru am ddyddiau, a bues i’n ymprydio ac yn gweddïo ar Dduw y nefoedd. A dyma fi’n dweud, “O ARGLWYDD, Duw’r nefoedd, plîs! Ti’n Dduw mawr a rhyfeddol, yn Dduw mor hael, ac yn cadw dy ymrwymiad i’r rhai sy’n dy garu di ac yn gwneud beth ti’n ddweud. O, plîs edrych a gwrando ar weddi dy was. Gwranda ar beth dw i’n ei weddïo ddydd a nos ar ran dy weision, pobl Israel. Dw i’n cyffesu ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di – fi a’m teulu, a phobl Israel i gyd. Dŷn ni wedi ymddwyn yn ofnadwy, a heb gadw’r gorchmynion, y rheolau a’r canllawiau wnest ti eu rhoi i dy was Moses.
Nehemeia 1:4-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan glywais y geiriau hyn, myfi a eisteddais ac a wylais, ac a alerais dalm o ddyddiau; a bûm yn ymprydio, ac yn gweddïo gerbron DUW y nefoedd; A dywedais, Atolwg, ARGLWYDD DDUW y nefoedd, y DUW mawr ac ofnadwy, yr hwn sydd yn cadw cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant ef ac a gadwant ei orchmynion: Bydded, atolwg, dy glust yn clywed, a’th lygaid yn agored, i wrando ar weddi dy was, yr hon yr ydwyf fi yn ei gweddïo ger dy fron di yr awr hon ddydd a nos, dros feibion Israel dy weision, ac yn cyffesu pechodau meibion Israel, y rhai a bechasom i’th erbyn: myfi hefyd a thŷ fy nhad a bechasom. Gwnaethom yn llygredig iawn i’th erbyn, ac ni chadwasom y gorchmynion, na’r deddfau, na’r barnedigaethau, a orchmynnaist i Moses dy was.