Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 7:24-37

Marc 7:24-37 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Gadawodd Iesu Galilea ac aeth i fyny i ardal Tyrus. Ceisiodd gadw’r ffaith ei fod yn aros yno’n gyfrinach, ond methodd. Yn wir, yn syth ar ôl clywed ei fod yno, daeth rhyw wraig ato a syrthio i lawr o’i flaen – roedd ganddi ferch fach oedd wedi’i meddiannu gan ysbryd drwg. Gwraig wedi’i geni yn Syro-Phoenicia oedd hi, dim Iddewes, ac roedd hi’n pledio ar i Iesu fwrw’r cythraul allan o’i merch. Dwedodd Iesu wrthi, “Rhaid i’r plant gael bwyta beth maen nhw eisiau gyntaf. Dydy hi ddim yn iawn i bobl daflu bwyd y plant i’r cŵn.” “Digon gwir, Arglwydd,” meddai’r wraig, “ond mae hyd yn oed y cŵn dan y bwrdd yn cael bwyta briwsion y plant.” “Am i ti roi ateb mor dda,” meddai Iesu wrthi, “cei fynd adre; mae’r cythraul wedi gadael dy ferch.” Felly aeth adre, a dyna lle roedd ei merch yn gorwedd ar ei gwely, a’r cythraul wedi’i gadael. Aeth Iesu yn ei flaen o ardal Tyrus a mynd drwy Sidon ac yna yn ôl i lawr at Lyn Galilea i ardal Decapolis. Yno daeth rhyw bobl a dyn ato oedd yn fyddar ac yn methu siarad yn glir, a gofyn iddo osod ei ddwylo ar y dyn a’i iacháu. Aeth Iesu a’r dyn i ffwrdd o olwg y dyrfa. Rhoddodd ei fysedd yng nghlustiau’r dyn ac wedyn poeri ar ei fysedd cyn cyffwrdd tafod y dyn. Edrychodd i fyny i’r nefoedd, ac meddai gydag ochenaid ddofn, “Eph-phatha!” (sy’n golygu, “Agor!”) Ar unwaith roedd y dyn yn gallu clywed a siarad yn glir. Dwedodd Iesu wrthyn nhw am beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd. Ond po fwya oedd Iesu’n dweud wrth bobl i beidio, mwya oedden nhw’n dweud wrth bawb am y pethau roedd yn eu gwneud. Roedd pobl wedi’u syfrdanu’n llwyr ganddo. “Mae popeth mae’n ei wneud mor ffantastig,” medden nhw. “Mae hyd yn oed yn gwneud i bobl fyddar glywed ac i bobl fud siarad!”

Marc 7:24-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Cychwynnodd oddi yno ac aeth ymaith i gyffiniau Tyrus. Aeth i dŷ, ac ni fynnai i neb wybod; ond ni lwyddodd i ymguddio. Ar unwaith clywodd gwraig amdano, gwraig yr oedd gan ei merch fach ysbryd aflan, a daeth a syrthiodd wrth ei draed ef. Groeges oedd y wraig, Syropheniciad o genedl; ac yr oedd yn gofyn iddo fwrw'r cythraul allan o'i merch. Meddai yntau wrthi, “Gad i'r plant gael digon yn gyntaf; nid yw'n deg cymryd bara'r plant a'i daflu i'r cŵn.” Atebodd hithau ef, “Syr, y mae hyd yn oed y cŵn o dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant.” “Am iti ddweud hynny,” ebe yntau, “dos adref; y mae'r cythraul wedi mynd allan o'th ferch.” Aeth hithau adref a chafodd y plentyn yn gorwedd ar y gwely, a'r cythraul wedi mynd ymaith. Dychwelodd drachefn o gyffiniau Tyrus, a daeth drwy Sidon at Fôr Galilea trwy ganol bro'r Decapolis. Dygasant ato ddyn byddar oedd prin yn gallu siarad, a cheisio ganddo roi ei law arno. Cymerodd yntau ef o'r neilltu oddi wrth y dyrfa ar ei ben ei hun; rhoes ei fysedd yn ei glustiau, poerodd, a chyffyrddodd â'i dafod; a chan edrych i fyny i'r nef ochneidiodd a dweud wrtho, “Ephphatha”, hynny yw, “Agorer di”. Agorwyd ei glustiau ar unwaith, a datodwyd rhwym ei dafod a dechreuodd lefaru'n eglur. A gorchmynnodd iddynt beidio â dweud wrth neb; ond po fwyaf yr oedd ef yn gorchymyn iddynt, mwyaf yn y byd yr oeddent hwy'n cyhoeddi'r peth. Yr oeddent yn synnu'n fawr dros ben, gan ddweud, “Da y gwnaeth ef bob peth; y mae'n gwneud hyd yn oed i fyddariaid glywed ac i fudion lefaru.”

Marc 7:24-37 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon; ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynasai i neb wybod: eithr ni allai efe fod yn guddiedig. Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ag ysbryd aflan ynddi, sôn amdano, hi a ddaeth ac a syrthiodd wrth ei draed ef: (A Groeges oedd y wraig, Syroffeniciad o genedl.) A hi a atolygodd iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch. A’r Iesu a ddywedodd wrthi, Gad yn gyntaf i’r plant gael eu digoni: canys nid cymwys yw cymryd bara’r plant, a’i daflu i’r cenawon cŵn. Hithau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwir, O Arglwydd: ac eto y mae’r cenawon dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant. Ac efe a ddywedodd wrthi, Am y gair hwnnw dos ymaith: aeth y cythraul allan o’th ferch. Ac wedi iddi fyned i’w thŷ, hi a gafodd fyned o’r cythraul allan, a’i merch wedi ei bwrw ar y gwely. Ac efe a aeth drachefn ymaith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd fôr Galilea, trwy ganol terfynau Decapolis. A hwy a ddygasant ato un byddar, ag atal dywedyd arno; ac a atolygasant iddo ddodi ei law arno ef. Ac wedi iddo ei gymryd ef o’r neilltu allan o’r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef; ac wedi iddo boeri, efe a gyffyrddodd â’i dafod ef; A chan edrych tua’r nef, efe a ochneidiodd, ac a ddywedodd wrtho, Effatha, hynny yw, Ymagor. Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddatodwyd; ac efe a lefarodd yn eglur. Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb: ond po mwyaf y gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant. A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i’r byddariaid glywed, ac i’r mudion ddywedyd.