Marc 6:47-51
Marc 6:47-51 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd hi’n nosi, a’r cwch ar ganol y llyn, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir. Gwelodd fod y disgyblion yn cael trafferthion wrth geisio rhwyfo yn erbyn y gwynt. Yna rywbryd ar ôl tri o’r gloch y bore aeth Iesu allan atyn nhw, gan gerdded ar y dŵr. Roedd fel petai’n mynd heibio iddyn nhw, a dyma nhw’n ei weld yn cerdded ar y llyn. Roedden nhw’n meddwl eu bod yn gweld ysbryd, a dyma nhw’n gweiddi mewn ofn. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Ond dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw, “Mae’n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.” Yna, wrth iddo ddringo i mewn i’r cwch, dyma’r gwynt yn tawelu. Roedden nhw wedi dychryn go iawn, ac mewn sioc.
Marc 6:47-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan aeth hi'n hwyr yr oedd y cwch ar ganol y môr, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir. A gwelodd hwy mewn helbul wrth rwyfo, oherwydd yr oedd y gwynt yn eu herbyn, a rhywbryd rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y môr. Yr oedd am fynd heibio iddynt; ond pan welsant ef yn cerdded ar y môr, tybiasant mai drychiolaeth ydoedd, a gwaeddasant, oherwydd gwelodd pawb ef, a dychrynwyd hwy. Siaradodd yntau â hwy ar unwaith a dweud wrthynt, “Codwch eich calon; myfi yw; peidiwch ag ofni.” Dringodd i'r cwch atynt, a gostegodd y gwynt. Yr oedd eu syndod yn fawr dros ben
Marc 6:47-51 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan aeth hi yn hwyr, yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntau ei hun ar y tir. Ac efe a’u gwelai hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo; canys y gwynt oedd yn eu herbyn. Ac ynghylch y bedwaredd wylfa o’r nos efe a ddaeth atynt, gan rodio ar y môr; ac a fynasai fyned heibio iddynt. Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, hwy a dybiasant mai drychiolaeth ydoedd: a hwy a waeddasant. (Canys hwynt oll a’i gwelsant ef, ac a ddychrynasant.) Ac yn y man yr ymddiddanodd efe â hwynt, ac y dywedodd wrthynt, Cymerwch gysur: myfi yw; nac ofnwch. Ac efe a aeth i fyny atynt i’r llong; a’r gwynt a dawelodd. A hwy a synasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ryfeddasant.