Marc 6:45-56
Marc 6:45-56 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna'n ddi-oed gwnaeth i'w ddisgyblion fynd i'r cwch a hwylio o'i flaen i'r ochr draw, i Bethsaida, tra byddai ef yn gollwng y dyrfa. Ac wedi canu'n iach iddynt aeth ymaith i'r mynydd i weddïo. Pan aeth hi'n hwyr yr oedd y cwch ar ganol y môr, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir. A gwelodd hwy mewn helbul wrth rwyfo, oherwydd yr oedd y gwynt yn eu herbyn, a rhywbryd rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y môr. Yr oedd am fynd heibio iddynt; ond pan welsant ef yn cerdded ar y môr, tybiasant mai drychiolaeth ydoedd, a gwaeddasant, oherwydd gwelodd pawb ef, a dychrynwyd hwy. Siaradodd yntau â hwy ar unwaith a dweud wrthynt, “Codwch eich calon; myfi yw; peidiwch ag ofni.” Dringodd i'r cwch atynt, a gostegodd y gwynt. Yr oedd eu syndod yn fawr dros ben, oblegid nid oeddent wedi deall ynglŷn â'r torthau; yr oedd eu meddwl wedi caledu. Wedi croesi at y tir daethant i Genesaret ac angori wrth y lan. Pan ddaethant allan o'r cwch, adnabu'r bobl ef ar unwaith, a dyma redeg o amgylch yr holl fro honno a dechrau cludo'r cleifion ar fatresi i ble bynnag y clywent ei fod ef. A phle bynnag y byddai'n mynd, i bentrefi neu i drefi neu i'r wlad, yr oeddent yn gosod y rhai oedd yn wael yn y marchnadleoedd, ac yn erfyn arno am iddynt gael dim ond cyffwrdd ag ymyl ei fantell. A phawb a gyffyrddodd ag ef, iachawyd hwy.
Marc 6:45-56 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn syth wedyn dyma Iesu’n gwneud i’w ddisgyblion fynd yn ôl i’r cwch a chroesi drosodd o’i flaen i Bethsaida, tra oedd e’n anfon y dyrfa adre. Ar ôl ffarwelio gyda nhw, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo. Roedd hi’n nosi, a’r cwch ar ganol y llyn, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir. Gwelodd fod y disgyblion yn cael trafferthion wrth geisio rhwyfo yn erbyn y gwynt. Yna rywbryd ar ôl tri o’r gloch y bore aeth Iesu allan atyn nhw, gan gerdded ar y dŵr. Roedd fel petai’n mynd heibio iddyn nhw, a dyma nhw’n ei weld yn cerdded ar y llyn. Roedden nhw’n meddwl eu bod yn gweld ysbryd, a dyma nhw’n gweiddi mewn ofn. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Ond dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw, “Mae’n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.” Yna, wrth iddo ddringo i mewn i’r cwch, dyma’r gwynt yn tawelu. Roedden nhw wedi dychryn go iawn, ac mewn sioc. Doedden nhw ddim wedi deall arwyddocâd y torthau o fara; roedden nhw mor ystyfnig. Ar ôl croesi’r llyn dyma nhw’n glanio yn Genesaret a chlymu’r cwch. Dyma bobl yn nabod Iesu yr eiliad ddaethon nhw o’r cwch. Dim ots lle roedd yn mynd, roedd pobl yn rhuthro drwy’r ardal i gyd yn cario pobl oedd yn sâl ar fatresi a dod â nhw ato. Dyna oedd yn digwydd yn y pentrefi, yn y trefi ac yng nghefn gwlad. Roedden nhw’n gosod y cleifion ar sgwâr y farchnad ac yn pledio arno i adael iddyn nhw gyffwrdd y taselau ar ei glogyn. Roedd pawb oedd yn ei gyffwrdd yn cael eu hiacháu.
Marc 6:45-56 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn y man efe a gymhellodd ei ddisgyblion i fyned i’r llong, a myned o’r blaen i’r lan arall i Fethsaida, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y bobl. Ac wedi iddo eu danfon hwynt ymaith, efe a aeth i’r mynydd i weddïo. A phan aeth hi yn hwyr, yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntau ei hun ar y tir. Ac efe a’u gwelai hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo; canys y gwynt oedd yn eu herbyn. Ac ynghylch y bedwaredd wylfa o’r nos efe a ddaeth atynt, gan rodio ar y môr; ac a fynasai fyned heibio iddynt. Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, hwy a dybiasant mai drychiolaeth ydoedd: a hwy a waeddasant. (Canys hwynt oll a’i gwelsant ef, ac a ddychrynasant.) Ac yn y man yr ymddiddanodd efe â hwynt, ac y dywedodd wrthynt, Cymerwch gysur: myfi yw; nac ofnwch. Ac efe a aeth i fyny atynt i’r llong; a’r gwynt a dawelodd. A hwy a synasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ryfeddasant. Oblegid ni ddeallasant am y torthau hynny: canys yr oedd eu calon hwynt wedi caledu. Ac wedi iddynt ddyfod trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret, ac a laniasant. Ac wedi eu myned hwynt allan o’r llong, hwy a’i hadnabuant ef yn ebrwydd. Ac wedi iddynt redeg trwy gwbl o’r goror hwnnw, hwy a ddechreuasant ddwyn oddi amgylch mewn gwelyau rai cleifion, pa le bynnag y clywent ei fod ef. Ac i ba le bynnag yr elai efe i mewn, i bentrefi, neu ddinasoedd, neu wlad, hwy a osodent y cleifion yn yr heolydd, ac a atolygent iddo gael ohonynt gyffwrdd cymaint ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddasant ag ef, a iachawyd.