Marc 6:39-44
Marc 6:39-44 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw am wneud i’r bobl eistedd mewn grwpiau ar y glaswellt. Felly dyma pawb yn eistedd mewn grwpiau o hanner cant i gant. Wedyn dyma Iesu’n cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a’i roi i’w ddisgyblion i’w rannu i’r bobl, a gwneud yr un peth gyda’r ddau bysgodyn. Cafodd pawb ddigon i’w fwyta, a dyma nhw’n codi deuddeg llond basged o dameidiau o fara a physgod oedd dros ben. Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo yno!
Marc 6:39-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gorchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn gwmnïoedd ar y glaswellt. Ac eisteddasant yn rhesi, bob yn gant a hanner cant. Yna cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y bobl; rhannodd hefyd y ddau bysgodyn rhwng pawb. Bwytasant oll a chael digon. A chodasant ddeuddeg basgedaid o dameidiau bara, a pheth o'r pysgod. Ac yr oedd y rhai oedd wedi bwyta'r torthau yn bum mil o wŷr.
Marc 6:39-44 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a orchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau ar y glaswellt. A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd, o fesur cannoedd, ac o fesur deg a deugeiniau. Ac wedi cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fyny tua’r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a’u rhoddes at ei ddisgyblion, i’w gosod ger eu bronnau hwynt: a’r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll. A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon. A chodasant ddeuddeg basgedaid yn llawn o’r briwfwyd, ac o’r pysgod. A’r rhai a fwytasent o’r torthau, oedd ynghylch pum mil o wŷr.