Marc 6:31-32
Marc 6:31-32 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ond roedd cymaint o bobl yn mynd a dod nes bod dim cyfle iddyn nhw fwyta hyd yn oed. Felly dyma Iesu’n dweud, “Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.” I ffwrdd â nhw mewn cwch i le tawel i fod ar eu pennau’u hunain.
Marc 6:31-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dywedodd wrthynt, “Dewch chwi eich hunain o'r neilltu i le unig a gorffwyswch am dipyn.” Oherwydd yr oedd llawer yn mynd a dod, ac nid oedd cyfle iddynt hyd yn oed i fwyta. Ac aethant ymaith yn y cwch i le unig o'r neilltu.
Marc 6:31-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o’r neilltu, a gorffwyswch encyd. Canys llawer oedd yn dyfod ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael ennyd cymaint ag i fwyta. A hwy a aethant i le anghyfannedd mewn llong o’r neilltu.