Marc 6:30-31
Marc 6:30-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth yr apostolion ynghyd at Iesu a dweud wrtho am yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud a'u dysgu. A dywedodd wrthynt, “Dewch chwi eich hunain o'r neilltu i le unig a gorffwyswch am dipyn.” Oherwydd yr oedd llawer yn mynd a dod, ac nid oedd cyfle iddynt hyd yn oed i fwyta.
Marc 6:30-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan gyrhaeddodd yr apostolion yn ôl, dyma nhw’n dechrau dweud yn frwd wrth Iesu am y cwbl roedden nhw wedi’i wneud a’i ddysgu. Ond roedd cymaint o bobl yn mynd a dod nes bod dim cyfle iddyn nhw fwyta hyd yn oed. Felly dyma Iesu’n dweud, “Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.”
Marc 6:30-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r apostolion a ymgasglasant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau, y rhai a wnaethent, a’r rhai hefyd a athrawiaethasent. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o’r neilltu, a gorffwyswch encyd. Canys llawer oedd yn dyfod ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael ennyd cymaint ag i fwyta.