Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 6:17-29

Marc 6:17-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Herod oedd wedi gorchymyn i Ioan Fedyddiwr gael ei arestio a’i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias. Er ei bod yn wraig i’w frawd Philip, roedd Herod wedi’i phriodi. Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro, “Dydy’r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti gymryd gwraig dy frawd.” Felly roedd Herodias yn dal dig yn erbyn Ioan, ac eisiau ei ladd. Ond doedd hi ddim yn gallu am fod gan Herod barch mawr at Ioan. Roedd yn ei amddiffyn am ei fod yn gwybod fod Ioan yn ddyn duwiol a chyfiawn. Er bod Herod yn anesmwyth wrth glywed beth oedd Ioan yn ei ddweud, roedd yn mwynhau gwrando arno. Ond gwelodd Herodias ei chyfle pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd. Roedd ei brif swyddogion, penaethiaid y fyddin a phobl bwysig Galilea i gyd wedi’u gwahodd i’r parti. Yn ystod y dathlu dyma ferch Herodias yn perfformio dawns. Roedd hi wedi plesio Herod a’i westeion yn fawr. Dwedodd Herod wrthi, “Gofyn am unrhyw beth gen i, a bydda i’n ei roi i ti.” Rhoddodd ei air iddi ar lw, “Cei di beth bynnag rwyt ti eisiau, hyd yn oed hanner y deyrnas!” Aeth y ferch allan at ei mam, “Am beth wna i ofyn?”, meddai wrthi. “Gofyn iddo dorri pen Ioan Fedyddiwr,” meddai ei mam. Felly dyma hi yn brysio’n ôl i mewn at y brenin, gyda’i chais: “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr nawr, a’i roi i mi ar hambwrdd.” Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl – roedd yn hollol ddigalon. Ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, doedd ganddo mo’r wyneb i’w gwrthod hi. Felly dyma fe’n anfon un o’i filwyr ar unwaith i ddienyddio Ioan. “Tyrd â’i ben yn ôl yma,” meddai. Felly aeth y milwr i’r carchar a thorri pen Ioan i ffwrdd. Daeth yn ei ôl gyda’r pen ar hambwrdd a’i roi i’r ferch, ac aeth hithau ag e i’w mam. Pan glywodd disgyblion Ioan beth oedd wedi digwydd dyma nhw’n cymryd y corff a’i roi mewn bedd.

Marc 6:17-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Oherwydd yr oedd Herod wedi anfon a dal Ioan, a'i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, am ei fod wedi ei phriodi. Yr oedd Ioan wedi dweud wrth Herod, “Nid yw'n gyfreithlon iti gael gwraig dy frawd.” Ac yr oedd Herodias yn dal dig wrtho ac yn dymuno ei ladd, ond ni allai, oherwydd yr oedd ar Herod ofn Ioan, am ei fod yn gwybod mai gŵr cyfiawn a sanctaidd ydoedd. Yr oedd yn ei gadw dan warchodaeth; a byddai'n gwrando arno'n llawen, er ei fod, ar ôl gwrando, mewn penbleth fawr. Daeth cyfle un diwrnod, pan wnaeth Herod wledd ar ei ben-blwydd i'w bendefigion a'i gadfridogion a gwŷr blaenllaw Galilea. Daeth merch Herodias i mewn, a dawnsio a phlesio Herod a'i westeion. Dywedodd y brenin wrth yr eneth, “Gofyn imi am y peth a fynni, ac fe'i rhof iti.” A gwnaeth lw difrifol iddi, “Beth bynnag a ofynni gennyf, rhof ef iti, hyd at hanner fy nheyrnas.” Aeth allan a dywedodd wrth ei mam, “Am beth y caf ofyn?” Dywedodd hithau, “Pen Ioan Fedyddiwr.” A brysiodd yr eneth ar unwaith i mewn at y brenin a gofyn, “Yr wyf am iti roi imi, y munud yma, ben Ioan Fedyddiwr ar ddysgl.” Aeth y brenin yn drist iawn, ond oherwydd ei lw, ac oherwydd y gwesteion, penderfynodd beidio â thorri ei air iddi. Ac yna anfonodd y brenin ddienyddiwr a gorchymyn iddo ddod â phen Ioan. Fe aeth hwnnw, a thorrodd ei ben ef yn y carchar, a dod ag ef ar ddysgl a'i roi i'r eneth; a rhoddodd yr eneth ef i'w mam. A phan glywodd ei ddisgyblion, daethant, a mynd â'i gorff ymaith a'i ddodi mewn bedd.

Marc 6:17-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Canys yr Herod hwn a ddanfonasai, ac a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai ef yn y carchar, o achos Herodias gwraig Philip ei frawd; am iddo ei phriodi hi. Canys Ioan a ddywedasai wrth Herod, Nid cyfreithlon i ti gael gwraig dy frawd. Ond Herodias a ddaliodd wg iddo, ac a chwenychodd ei ladd ef; ac nis gallodd: Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn ŵr cyfiawn, ac yn sanctaidd; ac a’i parchai ef: ac wedi iddo ei glywed ef, efe a wnâi lawer o bethau, ac a’i gwrandawai ef yn ewyllysgar. Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, pan wnaeth Herod ar ei ddydd genedigaeth swper i’w benaethiaid, a’i flaenoriaid, a goreugwyr Galilea: Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhau Herod, a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef, y brenin a ddywedodd wrth y llances, Gofyn i mi y peth a fynnech, ac mi a’i rhoddaf i ti. Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynnag a ofynnech i mi, mi a’i rhoddaf iti, hyd hanner fy nheyrnas. A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynnaf? A hithau a ddywedodd, Pen Ioan Fedyddiwr. Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynnodd, gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr. A’r brenin yn drist iawn, ni chwenychai ei bwrw hi heibio, oherwydd y llwon, a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef. Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr, ac a orchmynnodd ddwyn ei ben ef. Ac yntau a aeth, ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar, ac a ddug ei ben ef ar ddysgl, ac a’i rhoddes i’r llances; a’r llances a’i rhoddes ef i’w mam. A phan glybu ei ddisgyblion ef, hwy a ddaethant ac a gymerasant ei gorff ef, ac a’i dodasant mewn bedd.