Marc 6:1-3
Marc 6:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth oddi yno a daeth i fro ei febyd, a'i ddisgyblion yn ei ganlyn. A phan ddaeth y Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Yr oedd llawer yn synnu wrth wrando, ac meddent, “O ble y cafodd hwn y pethau hyn? A beth yw'r ddoethineb a roed i hwn, a'r fath weithredoedd nerthol sy'n cael eu gwneud trwyddo ef? Onid hwn yw'r saer, mab Mair a brawd Iago a Joses a Jwdas a Simon? Ac onid yw ei chwiorydd yma gyda ni?” Yr oedd ef yn peri tramgwydd iddynt.
Marc 6:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gadawodd Iesu’r ardal honno a mynd yn ôl gyda’i ddisgyblion i Nasareth, lle cafodd ei fagu. Ar y dydd Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Roedd y bobl oedd yn gwrando arno yn rhyfeddu. “Ble wnaeth hwn ddysgu’r pethau yma i gyd?” medden nhw. “Ble gafodd e’r holl ddoethineb, a’r gallu i wneud gwyrthiau? Saer ydy e! Mab Mair! Brawd Iago, Joseff, Jwdas a Simon! Mae ei chwiorydd yn dal i fyw yn y pentref ma!” Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn.
Marc 6:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a aeth ymaith oddi yno, ac a ddaeth i’w wlad ei hun; a’i ddisgyblion a’i canlynasant ef. Ac wedi dyfod y Saboth, efe a ddechreuodd athrawiaethu yn y synagog: a synnu a wnaeth llawer a’i clywsant, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha ddoethineb yw hon a roed iddo, fel y gwneid y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylo ef? Onid hwn yw’r saer, mab Mair, brawd Iago, a Joses, a Jwdas, a Simon? ac onid yw ei chwiorydd ef yma yn ein plith ni? A hwy a rwystrwyd o’i blegid ef.