Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 6:1-20

Marc 6:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Aeth oddi yno a daeth i fro ei febyd, a'i ddisgyblion yn ei ganlyn. A phan ddaeth y Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Yr oedd llawer yn synnu wrth wrando, ac meddent, “O ble y cafodd hwn y pethau hyn? A beth yw'r ddoethineb a roed i hwn, a'r fath weithredoedd nerthol sy'n cael eu gwneud trwyddo ef? Onid hwn yw'r saer, mab Mair a brawd Iago a Joses a Jwdas a Simon? Ac onid yw ei chwiorydd yma gyda ni?” Yr oedd ef yn peri tramgwydd iddynt. Meddai Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei fro ei hun ac ymhlith ei geraint ac yn ei gartref.” Ac ni allai wneud unrhyw wyrth yno, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion a'u hiacháu. Rhyfeddodd at eu hanghrediniaeth. Yr oedd yn mynd o amgylch y pentrefi dan ddysgu. A galwodd y Deuddeg ato a dechrau eu hanfon allan bob yn ddau. Rhoddodd iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan, a gorchmynnodd iddynt beidio â chymryd dim ar gyfer y daith ond ffon yn unig; dim bara, dim cod, dim pres yn eu gwregys; sandalau am eu traed, ond heb wisgo ail grys. Ac meddai wrthynt, “Lle bynnag yr ewch i mewn i dŷ, arhoswch yno nes y byddwch yn ymadael â'r ardal. Ac os bydd unrhyw le yn gwrthod eich derbyn, a phobl yn gwrthod gwrando arnoch, ewch allan oddi yno ac ysgydwch ymaith y llwch fydd dan eich traed, yn rhybudd iddynt.” Felly aethant allan a phregethu ar i bobl edifarhau, ac yr oeddent yn bwrw allan gythreuliaid lawer, ac yn eneinio llawer o gleifion ag olew ac yn eu hiacháu. Clywodd y Brenin Herod am hyn, oherwydd yr oedd enw Iesu wedi dod yn hysbys. Yr oedd pobl yn dweud, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi ei godi oddi wrth y meirw, a dyna pam y mae'r gweithredoedd nerthol ar waith ynddo ef.” Yr oedd eraill yn dweud, “Elias ydyw”; ac eraill wedyn, “Proffwyd yw, fel un o'r proffwydi gynt.” Ond pan glywodd Herod, dywedodd, “Ioan, yr un y torrais i ei ben, sydd wedi ei gyfodi.” Oherwydd yr oedd Herod wedi anfon a dal Ioan, a'i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, am ei fod wedi ei phriodi. Yr oedd Ioan wedi dweud wrth Herod, “Nid yw'n gyfreithlon iti gael gwraig dy frawd.” Ac yr oedd Herodias yn dal dig wrtho ac yn dymuno ei ladd, ond ni allai, oherwydd yr oedd ar Herod ofn Ioan, am ei fod yn gwybod mai gŵr cyfiawn a sanctaidd ydoedd. Yr oedd yn ei gadw dan warchodaeth; a byddai'n gwrando arno'n llawen, er ei fod, ar ôl gwrando, mewn penbleth fawr.

Marc 6:1-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gadawodd Iesu’r ardal honno a mynd yn ôl gyda’i ddisgyblion i Nasareth, lle cafodd ei fagu. Ar y dydd Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Roedd y bobl oedd yn gwrando arno yn rhyfeddu. “Ble wnaeth hwn ddysgu’r pethau yma i gyd?” medden nhw. “Ble gafodd e’r holl ddoethineb, a’r gallu i wneud gwyrthiau? Saer ydy e! Mab Mair! Brawd Iago, Joseff, Jwdas a Simon! Mae ei chwiorydd yn dal i fyw yn y pentref ma!” Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn. Dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw, “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn y dre lle cafodd ei fagu – gan ei bobl ei hun a’i deulu ei hun!” Felly allai Iesu ddim gwneud rhyw lawer o wyrthiau yno, dim ond gosod ei ddwylo ar ychydig bobl oedd yn sâl iawn i’w hiacháu nhw. Roedd yn rhyfeddu eu bod nhw mor amharod i gredu. Aeth Iesu ar daith o gwmpas y pentrefi yn dysgu’r bobl. Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a’u hanfon allan bob yn ddau a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw allan ysbrydion drwg. Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd ond ffon gyda chi – dim bwyd, dim bag teithio na hyd yn oed newid mân. Gwisgwch sandalau, ond peidiwch mynd â dillad sbâr. Ble bynnag ewch chi, arhoswch yn yr un tŷ nes byddwch yn gadael y dref honno. Os bydd dim croeso i chi yn rhywle, neu os bydd pobl yn gwrthod gwrando arnoch, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael. Bydd hynny’n arwydd o farn Duw arnyn nhw!” Felly i ffwrdd â nhw i bregethu fod rhaid i bobl droi at Dduw a newid eu ffyrdd. Roedden nhw’n bwrw allan llawer o gythreuliaid ac yn eneinio llawer o bobl ag olew a’u hiacháu nhw. Roedd y Brenin Herod wedi clywed am beth oedd yn digwydd, am fod pawb yn gwybod am Iesu. Roedd rhai yn dweud, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi dod yn ôl yn fyw. Dyna pam mae’n gallu gwneud gwyrthiau.” Roedd rhai yn dweud, “Elias ydy e”, ac eraill yn meddwl ei fod yn broffwyd, fel un o broffwydi mawr y gorffennol. Pan glywodd Herod beth oedd Iesu’n ei wneud, dwedodd ar unwaith, “Ioan ydy e! Torrais ei ben i ffwrdd ac mae wedi dod yn ôl yn fyw!” Herod oedd wedi gorchymyn i Ioan Fedyddiwr gael ei arestio a’i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias. Er ei bod yn wraig i’w frawd Philip, roedd Herod wedi’i phriodi. Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro, “Dydy’r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti gymryd gwraig dy frawd.” Felly roedd Herodias yn dal dig yn erbyn Ioan, ac eisiau ei ladd. Ond doedd hi ddim yn gallu am fod gan Herod barch mawr at Ioan. Roedd yn ei amddiffyn am ei fod yn gwybod fod Ioan yn ddyn duwiol a chyfiawn. Er bod Herod yn anesmwyth wrth glywed beth oedd Ioan yn ei ddweud, roedd yn mwynhau gwrando arno.

Marc 6:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac efe a aeth ymaith oddi yno, ac a ddaeth i’w wlad ei hun; a’i ddisgyblion a’i canlynasant ef. Ac wedi dyfod y Saboth, efe a ddechreuodd athrawiaethu yn y synagog: a synnu a wnaeth llawer a’i clywsant, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha ddoethineb yw hon a roed iddo, fel y gwneid y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylo ef? Onid hwn yw’r saer, mab Mair, brawd Iago, a Joses, a Jwdas, a Simon? ac onid yw ei chwiorydd ef yma yn ein plith ni? A hwy a rwystrwyd o’i blegid ef. Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei wlad ei hun, ac ymhlith ei genedl ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. Ac ni allai efe yno wneuthur dim gwyrthiau, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a’u hiacháu hwynt. Ac efe a ryfeddodd oherwydd eu hanghrediniaeth: ac a aeth i’r pentrefi oddi amgylch, gan athrawiaethu. Ac efe a alwodd y deuddeg, ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bob yn ddau a dau; ac a roddes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan; Ac a orchmynnodd iddynt, na chymerent ddim i’r daith, ond llawffon yn unig; nac ysgrepan, na bara, nac arian yn eu pyrsau: Eithr eu bod â sandalau am eu traed; ac na wisgent ddwy bais. Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch ymaith oddi yno. A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, ac ni’ch gwrandawant, pan eloch oddi yno, ysgydwch y llwch a fyddo dan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Yn wir meddaf i chwi, Y bydd esmwythach i Sodom a Gomorra yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno. A hwy a aethant allan, ac a bregethasant ar iddynt edifarhau: Ac a fwriasant allan lawer o gythreuliaid, ac a eliasant ag olew lawer o gleifion, ac a’u hiachasant. A’r brenin Herod a glybu (canys cyhoedd ydoedd ei enw ef); ac efe a ddywedodd, Ioan Fedyddiwr a gyfododd o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef. Eraill a ddywedasant, Mai Eleias yw. Ac eraill a ddywedasant, Mai proffwyd yw, neu megis un o’r proffwydi. Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Mai’r Ioan a dorrais i ei ben yw hwn; efe a gyfododd o feirw. Canys yr Herod hwn a ddanfonasai, ac a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai ef yn y carchar, o achos Herodias gwraig Philip ei frawd; am iddo ei phriodi hi. Canys Ioan a ddywedasai wrth Herod, Nid cyfreithlon i ti gael gwraig dy frawd. Ond Herodias a ddaliodd wg iddo, ac a chwenychodd ei ladd ef; ac nis gallodd: Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn ŵr cyfiawn, ac yn sanctaidd; ac a’i parchai ef: ac wedi iddo ei glywed ef, efe a wnâi lawer o bethau, ac a’i gwrandawai ef yn ewyllysgar.