Marc 4:1-12
Marc 4:1-12 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dechreuodd Iesu ddysgu’r bobl ar lan Llyn Galilea unwaith eto. Roedd tyrfa enfawr wedi casglu o’i gwmpas nes bod rhaid iddo eistedd mewn cwch ar y llyn, tra oedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan. Roedd yn defnyddio llawer o straeon i ddarlunio beth roedd yn ei ddysgu iddyn nhw. “Gwrandwch!” meddai: “Aeth ffermwr allan i hau hadau. Wrth iddo wasgaru’r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma’r adar yn dod a’i fwyta. Dyma beth o’r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn, ond yn yr haul poeth dyma’r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau. Yna dyma beth o’r had yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain a thagu’r planhigion, felly doedd dim grawn yn y dywysen. Ond syrthiodd peth o’r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno – cymaint â thri deg, chwe deg neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau.” “Gwrandwch yn ofalus os dych chi’n awyddus i ddysgu!” Yn nes ymlaen, pan oedd ar ei ben ei hun, dyma’r deuddeg disgybl a rhai eraill oedd o’i gwmpas yn gofyn iddo beth oedd ystyr y stori. Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Dych chi’n cael gwybod y gyfrinach am deyrnasiad Duw. Ond i’r rhai sydd y tu allan dydy’r cwbl ddim ond straeon. Felly, ‘maen nhw’n edrych yn ofalus ond yn gweld dim, maen nhw’n clywed yn iawn ond byth yn deall; rhag iddyn nhw droi cefn ar bechod a chael maddeuant!’ ”
Marc 4:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dechreuodd ddysgu eto ar lan y môr. A daeth tyrfa mor fawr ynghyd ato nes iddo fynd ac eistedd mewn cwch ar y môr; ac yr oedd yr holl dyrfa ar y tir wrth ymyl y môr. Yr oedd yn dysgu llawer iddynt ar ddamhegion, ac wrth eu dysgu meddai: “Gwrandewch! Aeth heuwr allan i hau. Ac wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a daeth yr adar a'i fwyta. Syrthiodd peth arall ar dir creigiog, lle ni chafodd fawr o bridd, a thyfodd yn gyflym am nad oedd iddo ddyfnder daear; a phan gododd yr haul fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd. Syrthiodd peth arall ymhlith y drain, a thyfodd y drain a'i dagu, ac ni roddodd ffrwyth. A syrthiodd hadau eraill ar dir da, a chan dyfu a chynyddu yr oeddent yn ffrwytho ac yn cnydio hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint.” Ac meddai, “Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.” Pan oedd wrtho'i hun, dechreuodd y rhai oedd o'i gwmpas gyda'r Deuddeg ei holi am y damhegion. Ac meddai wrthynt, “I chwi y mae cyfrinach teyrnas Dduw wedi ei rhoi; ond i'r rheini sydd oddi allan y mae popeth ar ddamhegion, fel
Marc 4:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr: a thyrfa fawr a ymgasglodd ato, hyd oni bu iddo fyned i’r llong, ac eistedd ar y môr; a’r holl dyrfa oedd wrth y môr, ar y tir. Ac efe a ddysgodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth ef, Gwrandewch: Wele, heuwr a aeth allan i hau: A darfu, wrth hau, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant ac a’i difasant. A pheth a syrthiodd ar greigle, lle ni chafodd fawr ddaear; ac yn y fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear. A phan gododd yr haul, y poethwyd ef; ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd. A pheth a syrthiodd ymhlith drain; a’r drain a dyfasant, ac a’i tagasant ef, ac ni ddug ffrwyth. A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchiol, ac a ddug un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed. A phan oedd efe wrtho’i hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyda’r deuddeg a ofynasant iddo am y ddameg. Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw: eithr i’r rhai sydd allan, ar ddamhegion y gwneir pob peth: Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant; ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant; rhag iddynt ddychwelyd, a maddau iddynt eu pechodau.