Marc 14:53-65
Marc 14:53-65 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma nhw’n mynd â Iesu at yr archoffeiriad. Roedd y prif offeiriaid a’r arweinwyr eraill, a’r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi dod at ei gilydd. Roedd Pedr wedi bod yn dilyn o bell. Aeth i mewn i iard tŷ’r archoffeiriad. Eisteddodd yno gyda’r swyddogion diogelwch yn cadw’n gynnes wrth y tân. Roedd y prif offeiriaid a’r Sanhedrin (hynny ydy yr uchel-lys Iddewig) yn edrych am dystiolaeth yn erbyn Iesu er mwyn ei ddedfrydu i farwolaeth. Ond chawson nhw ddim tystiolaeth, er fod digon o bobl yn barod i ddweud celwydd ar lw. Y broblem oedd fod eu straeon yn gwrth-ddweud ei gilydd. Yn y diwedd, dyma rhywrai’n tystio fel hyn (dweud celwydd oedden nhw): “Clywon ni e’n dweud, ‘Dw i’n mynd i ddinistrio’r deml yma sydd wedi’i hadeiladu gan ddynion a chodi un arall o fewn tri diwrnod heb help dynion.’” Hyd yn oed wedyn doedd eu tystiolaeth ddim yn gyson! Felly dyma’r archoffeiriad yn codi ar ei draed ac yn gofyn i Iesu, “Wel, oes gen ti ateb? Beth am y dystiolaeth yma yn dy erbyn di?” Ond ddwedodd Iesu ddim gair. Yna gofynnodd yr archoffeiriad eto, “Ai ti ydy’r Meseia, Mab yr Un Bendigedig?” “Ie, fi ydy e,” meddai Iesu. “A byddwch chi’n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda’r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau’r awyr.” Wrth glywed yr hyn ddwedodd Iesu dyma’r archoffeiriad yn rhwygo’i ddillad. “Pam mae angen tystion arnon ni?!” meddai. “Dych chi i gyd wedi’i glywed yn cablu. Beth ydy’ch dyfarniad chi?” A dyma nhw i gyd yn dweud ei fod yn haeddu ei gondemnio i farwolaeth. Yna dyma rai ohonyn nhw’n dechrau poeri ato, a rhoi mwgwd dros ei lygaid, a’i ddyrnu yn ei wyneb. “Tyrd, Proffwyda!”, medden nhw. Wedyn dyma’r swyddogion diogelwch yn ei gymryd i ffwrdd a’i guro.
Marc 14:53-65 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aethant â Iesu ymaith at yr archoffeiriad, a daeth y prif offeiriaid oll a'r henuriaid a'r ysgrifenyddion ynghyd. Canlynodd Pedr ef o hirbell, bob cam i mewn i gyntedd yr archoffeiriad, ac yr oedd yn eistedd gyda'r gwasanaethwyr, yn ymdwymo wrth y tân. Yr oedd y prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin yn ceisio tystiolaeth yn erbyn Iesu, i'w roi i farwolaeth, ond yn methu cael dim. Oherwydd yr oedd llawer yn rhoi camdystiolaeth yn ei erbyn, ond nid oedd eu tystiolaeth yn gyson. Cododd rhai a chamdystio yn ei erbyn, “Clywsom ni ef yn dweud, ‘Mi fwriaf i lawr y deml hon o waith llaw, ac mewn tridiau mi adeiladaf un arall heb fod o waith llaw.’ ” Ond hyd yn oed felly nid oedd eu tystiolaeth yn gyson. Yna cododd yr archoffeiriad ar ei draed yn y canol, a holodd Iesu: “Onid atebi ddim? Beth am dystiolaeth y rhain yn dy erbyn?” Parhaodd yntau'n fud, heb ateb dim. Holodd yr archoffeiriad ef drachefn, ac meddai wrtho, “Ai ti yw'r Meseia, Mab y Bendigedig?” Dywedodd Iesu, “Myfi yw, “ ‘ac fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu ac yn dyfod gyda chymylau'r nef.’ ” Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, “Pa raid i ni wrth dystion bellach? Clywsoch ei gabledd; sut y barnwch chwi?” A'u dedfryd gytûn arno oedd ei fod yn haeddu marwolaeth. A dechreuodd rhai boeri arno a rhoi gorchudd ar ei wyneb, a'i gernodio a dweud wrtho, “Proffwyda.” Ac ymosododd y gwasanaethwyr arno â dyrnodiau.
Marc 14:53-65 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a ddygasant yr Iesu at yr archoffeiriad: a’r holl archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, a ymgasglasant gydag ef. A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac yr oedd efe yn eistedd gyda’r gwasanaethwyr, ac yn ymdwymo wrth y tân. A’r archoffeiriaid a’r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i’w roi ef i’w farwolaeth; ac ni chawsant. Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef; eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gyson. A rhai a gyfodasant ac a ddygasant gamdystiolaeth yn ei erbyn, gan ddywedyd, Ni a’i clywsom ef yn dywedyd, Mi a ddinistriaf y deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw. Ac eto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gyson. A chyfododd yr archoffeiriad yn y canol, ac a ofynnodd i’r Iesu, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? Ac efe a dawodd, ac nid atebodd ddim. Drachefn yr archoffeiriad a ofynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mab y Bendigedig? A’r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod yng nghymylau’r nef. Yna yr archoffeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion? Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a’i condemniasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth. A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a’i gernodio; a dywedyd wrtho, Proffwyda. A’r gweinidogion a’i trawsant ef â gwiail.