A hwy a ddygasant yr Iesu at yr archoffeiriad: a’r holl archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, a ymgasglasant gydag ef. A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac yr oedd efe yn eistedd gyda’r gwasanaethwyr, ac yn ymdwymo wrth y tân. A’r archoffeiriaid a’r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i’w roi ef i’w farwolaeth; ac ni chawsant. Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef; eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gyson. A rhai a gyfodasant ac a ddygasant gamdystiolaeth yn ei erbyn, gan ddywedyd, Ni a’i clywsom ef yn dywedyd, Mi a ddinistriaf y deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw. Ac eto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gyson. A chyfododd yr archoffeiriad yn y canol, ac a ofynnodd i’r Iesu, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? Ac efe a dawodd, ac nid atebodd ddim. Drachefn yr archoffeiriad a ofynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mab y Bendigedig? A’r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod yng nghymylau’r nef. Yna yr archoffeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion? Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a’i condemniasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth. A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a’i gernodio; a dywedyd wrtho, Proffwyda. A’r gweinidogion a’i trawsant ef â gwiail.
Darllen Marc 14
Gwranda ar Marc 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 14:53-65
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos