Micha 6:9-16
Micha 6:9-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Gwrandwch!” Mae’r ARGLWYDD yn galw pobl Jerwsalem – (Mae’n beth doeth i barchu dy enw, o Dduw.) “Gwrandwch lwyth Jwda a’r rhai sy’n casglu yn y ddinas! Ydw i’n mynd i anwybyddu’r trysorau a gawsoch drwy dwyll, a’r mesur prin, sy’n felltith? Fyddai’n iawn i mi oddef y clorian sy’n dweud celwydd, a’r bag o bwysau ysgafn? Mae’r cyfoethog yn treisio’r tlawd, a’r bobl i gyd yn dweud celwydd – twyll ydy eu hiaith gyntaf nhw! Dw i’n mynd i’ch taro a’ch anafu’n ddifrifol, cewch eich dinistrio am bechu. Byddwch yn bwyta, ond byth yn cael digon. Bydd eich plentyn yn marw’n y groth, cyn cael ei eni; a bydda i’n gadael i’r cleddyf ladd y rhai sy’n cael eu geni! Byddwch yn plannu cnydau ond byth yn medi’r cynhaeaf. Byddwch yn gwasgu’r olewydd ond gewch chi ddim defnyddio’r olew. Byddwch yn sathru’r grawnwin, ond gewch chi ddim yfed y gwin. Dych chi’n cadw deddfau drwg y Brenin Omri, ac efelychu arferion drwg y Brenin Ahab! – a dilyn eu polisïau pwdr. Felly bydd rhaid i mi eich dinistrio chi, a bydd pobl yn eich gwawdio ac yn gwneud sbort am eich pen.”
Micha 6:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Clyw! Y mae'r ARGLWYDD yn gweiddi ar y ddinas— y mae llwyddiant o ofni ei enw: “Gwrando, di lwyth, a chyngor y ddinas. A anghofiaf enillion twyllodrus yn nhŷ'r twyllwr, a'r mesur prin sy'n felltigedig? A oddefaf gloriannau twyllodrus, neu gyfres o bwysau ysgafn? Y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a'i thrigolion yn dweud celwydd, a thafodau ffals yn eu genau. Ond yr wyf fi'n dy daro nes dy glwyfo, i'th anrheithio am dy bechodau: byddi'n bwyta, ond heb dy ddigoni, a bydd y bwyd yn pwyso ar dy stumog; byddi'n cilio, ond heb ddianc, a'r sawl a ddianc, fe'i lladdaf â'r cleddyf; byddi'n hau, ond heb fedi, yn sathru olewydd, ond heb ddefnyddio'r olew, a gwinwydd, ond heb yfed gwin. Cedwaist ddeddfau Omri, a holl weithredoedd tŷ Ahab, a dilynaist eu cynghorion, er mwyn imi dy wneud yn ddiffaith a'th drigolion yn gyff gwawd; a dygwch ddirmyg y bobl.”
Micha 6:9-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Llef yr ARGLWYDD a lefa ar y ddinas, a’r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a’i hordeiniodd. A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir, a’r mesur prin, peth sydd ffiaidd? A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus? Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a’i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a’u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau. A minnau hefyd a’th glwyfaf wrth dy daro, wrth dy anrheithio am dy bechodau. Ti a fwytei, ac ni’th ddigonir; a’th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun: ti a ymefli, ac nid achubi; a’r hyn a achubych, a roddaf i’r cleddyf. Ti a heui, ond ni fedi; ti a sethri yr olewydd, ond nid ymiri ag olew; a gwin newydd, ond nid yfi win. Cadw yr ydys ddeddfau Omri, a holl weithredoedd Ahab, a rhodio yr ydych yn eu cynghorion: fel y’th wnawn yn anghyfannedd, a’i thrigolion i’w hwtio: am hynny y dygwch warth fy mhobl.