Micha 1:1-7
Micha 1:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r neges roddodd yr ARGLWYDD i Micha o Moresheth. Roedd yn proffwydo pan oedd Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda. Dyma ddangosodd Duw iddo am Samaria a Jerwsalem. Gwrandwch, chi bobl i gyd! Cymrwch sylw, bawb sy’n byw drwy’r byd! Mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn dyst yn eich erbyn; mae’n eich cyhuddo chi o’i deml sanctaidd. Edrychwch! Mae’r ARGLWYDD yn dod! Mae’n dod i lawr ac yn sathru’r mynyddoedd! Bydd y mynyddoedd yn dryllio dan ei draed, a’r dyffrynnoedd yn hollti. Bydd y creigiau’n toddi fel cwyr mewn tân, ac yn llifo fel dŵr ar y llethrau. Pam? Am fod Jacob wedi gwrthryfela, a phobl Israel wedi pechu. Sut mae Jacob wedi gwrthryfela? Samaria ydy’r drwg! Ble mae allorau paganaidd Jwda? Yn Jerwsalem! “Dw i’n mynd i droi Samaria yn bentwr o gerrig mewn cae agored – bydd yn lle i blannu gwinllannoedd! Dw i’n mynd i hyrddio ei waliau i’r dyffryn a gadael dim ond sylfeini’n y golwg. Bydd ei delwau’n cael eu dryllio, ei thâl am buteinio yn llosgi’n y tân, a’r eilunod metel yn bentwr o sgrap! Casglodd nhw gyda’i thâl am buteinio, a byddan nhw’n troi’n dâl i buteiniaid eto.”
Micha 1:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Micha o Moreseth yn nyddiau Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda. Dyma'i weledigaethau am Samaria a Jerwsalem. Gwrandewch, bobloedd, bawb ohonoch; clyw dithau, ddaear, a phopeth ynddi. Y mae'r Arglwydd DDUW, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd, yn dyst yn eich erbyn. Wele'r ARGLWYDD yn dod allan o'i drigfan, yn dod i lawr ac yn troedio ar uchelderau'r ddaear. Y mae'r mynyddoedd yn toddi dano, a'r dyffrynnoedd yn hollti'n agored, fel cwyr o flaen tân, fel dyfroedd wedi eu tywallt ar oriwaered. Am drosedd Jacob y mae hyn oll, ac am bechod tŷ Israel. Beth yw trosedd Jacob? Onid Samaria? Beth yw pechod tŷ Jwda? Onid Jerwsalem? “Am hynny, gwnaf Samaria yn garnedd ar faes agored, yn lle i blannu gwinwydd; gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn, a dinoethaf ei sylfeini. Malurir ei holl gerfddelwau, llosgir ei holl enillion yn y tân, a gwnaf ddifrod o'i delwau; o enillion puteindra y casglodd hwy, ac yn dâl puteindra y dychwelant.”
Micha 1:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Micha y Morasthiad yn nyddiau Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, yr hwn a welodd efe am Samaria a Jerwsalem. Gwrandewch, bobl oll; clyw dithau, y ddaear, ac sydd ynddi; a bydded yr ARGLWYDD DDUW yn dyst i’ch erbyn, yr Arglwydd o’i deml sanctaidd. Canys wele yr ARGLWYDD yn dyfod o’i le; efe hefyd a ddisgyn, ac a sathr ar uchelderau y ddaear. A’r mynyddoedd a doddant tano ef, a’r glynnoedd a ymholltant fel cwyr o flaen y tân, ac fel y dyfroedd a dywelltir ar y goriwaered. Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob, ac am bechodau tŷ Israel. Beth yw anwiredd Jacob? onid Samaria? Pa rai yw uchel leoedd Jwda? onid Jerwsalem? Am hynny y gosodaf Samaria yn garneddfaes dda i blannu gwinllan; a gwnaf i’w cherrig dreiglo i’r dyffryn, a datguddiaf ei sylfeini. A’i holl ddelwau cerfiedig a gurir yn ddrylliau, a’i holl wobrau a losgir yn tân, a’i holl eilunod a osodaf yn anrheithiedig: oherwydd o wobr putain y casglodd hi hwynt, ac yn wobr putain y dychwelant.