Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Micha 1:1-16

Micha 1:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Micha o Moreseth yn nyddiau Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda. Dyma'i weledigaethau am Samaria a Jerwsalem. Gwrandewch, bobloedd, bawb ohonoch; clyw dithau, ddaear, a phopeth ynddi. Y mae'r Arglwydd DDUW, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd, yn dyst yn eich erbyn. Wele'r ARGLWYDD yn dod allan o'i drigfan, yn dod i lawr ac yn troedio ar uchelderau'r ddaear. Y mae'r mynyddoedd yn toddi dano, a'r dyffrynnoedd yn hollti'n agored, fel cwyr o flaen tân, fel dyfroedd wedi eu tywallt ar oriwaered. Am drosedd Jacob y mae hyn oll, ac am bechod tŷ Israel. Beth yw trosedd Jacob? Onid Samaria? Beth yw pechod tŷ Jwda? Onid Jerwsalem? “Am hynny, gwnaf Samaria yn garnedd ar faes agored, yn lle i blannu gwinwydd; gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn, a dinoethaf ei sylfeini. Malurir ei holl gerfddelwau, llosgir ei holl enillion yn y tân, a gwnaf ddifrod o'i delwau; o enillion puteindra y casglodd hwy, ac yn dâl puteindra y dychwelant.” Am hyn y galaraf ac yr wylaf, a mynd yn noeth a heb esgidiau; galarnadaf fel y siacal, a llefain fel tylluanod yr anialwch, am nad oes meddyginiaeth i'w chlwyf; oherwydd daeth hyd at Jwda, a chyrraedd at borth fy mhobl, hyd at Jerwsalem. Peidiwch â chyhoeddi'r peth yn Gath, a pheidiwch ag wylo yn Baca; yn Beth-affra ymdreiglwch yn y llwch. Ewch ymlaen, drigolion Saffir; onid mewn noethni a chywilydd yr â trigolion Saanan allan? Galar sydd yn Beth-esel, a pheidiodd â bod yn gynhaliaeth i chwi. Mewn gwewyr am newydd da y mae trigolion Maroth, oherwydd i ddrygioni oddi wrth yr ARGLWYDD ddod hyd at borth Jerwsalem. Harneisiwch y meirch wrth y cerbydau, drigolion Lachis; chwi oedd cychwyn pechod i ferch Seion, ac ynoch chwi y caed troseddau Israel. Felly, rhodder anrheg ymadael i Moreseth-gath; y mae Beth-achsib yn dwyllodrus i frenhinoedd Israel. Dygaf eto yr anrheithiwr at bobl Maresa, a bydd gogoniant Israel yn mynd i Adulam. Eillia dy ben a gwna dy hun yn foel, am y plant a hoffaist; gwna dy hun yn foel fel eryr, am iddynt fynd oddi wrthyt i gaethglud.

Micha 1:1-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma’r neges roddodd yr ARGLWYDD i Micha o Moresheth. Roedd yn proffwydo pan oedd Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda. Dyma ddangosodd Duw iddo am Samaria a Jerwsalem. Gwrandwch, chi bobl i gyd! Cymrwch sylw, bawb sy’n byw drwy’r byd! Mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn dyst yn eich erbyn; mae’n eich cyhuddo chi o’i deml sanctaidd. Edrychwch! Mae’r ARGLWYDD yn dod! Mae’n dod i lawr ac yn sathru’r mynyddoedd! Bydd y mynyddoedd yn dryllio dan ei draed, a’r dyffrynnoedd yn hollti. Bydd y creigiau’n toddi fel cwyr mewn tân, ac yn llifo fel dŵr ar y llethrau. Pam? Am fod Jacob wedi gwrthryfela, a phobl Israel wedi pechu. Sut mae Jacob wedi gwrthryfela? Samaria ydy’r drwg! Ble mae allorau paganaidd Jwda? Yn Jerwsalem! “Dw i’n mynd i droi Samaria yn bentwr o gerrig mewn cae agored – bydd yn lle i blannu gwinllannoedd! Dw i’n mynd i hyrddio ei waliau i’r dyffryn a gadael dim ond sylfeini’n y golwg. Bydd ei delwau’n cael eu dryllio, ei thâl am buteinio yn llosgi’n y tân, a’r eilunod metel yn bentwr o sgrap! Casglodd nhw gyda’i thâl am buteinio, a byddan nhw’n troi’n dâl i buteiniaid eto.” Dyna pam dw i’n galaru a nadu, a cherdded heb sandalau ac mewn carpiau; yn udo’n uchel fel siacaliaid, a sgrechian cwyno fel cywion estrys. Fydd salwch Samaria ddim yn gwella! Mae wedi lledu i Jwda – mae hyd yn oed arweinwyr fy mhobl yn Jerwsalem wedi dal y clefyd! ‘Peidiwch dweud am y peth yn Gath!’ Peidiwch crio rhag iddyn nhw’ch clywed chi! Bydd pobl Beth-leaffra yn rholio yn y llwch. Bydd pobl Shaffir yn pasio heibio yn noeth ac mewn cywilydd. Bydd pobl Saänan yn methu symud, a Beth-haetsel yn gwneud dim ond galaru – fydd hi ddim yn dy helpu eto. Bydd pobl Maroth yn aflonydd wrth ddisgwyl am rywbeth gwell i ddigwydd na’r difrod mae’r ARGLWYDD wedi’i anfon, ac sy’n gwasgu ar giatiau Jerwsalem. Clymwch eich cerbydau wrth y ceffylau, bobl Lachish! Chi wnaeth wrthryfela fel Israel ac arwain pobl Seion i bechu! Bydd rhaid i chi ddweud ffarwél wrth Moresheth-gath, a bydd tai Achsib yn siomi – bydd fel ffynnon wedi sychu i frenhinoedd Israel. Bobl Maresha, bydd gelyn yn dod i goncro a dal eich tref, a bydd arweinwyr Israel yn ffoi i ogof Adwlam eto. Felly, Jerwsalem, siafia dy ben i alaru am y plant rwyt ti’n dotio atyn nhw. Gwna dy dalcen yn foel fel y fwltur, am fod y gelyn yn mynd i’w cymryd nhw’n gaeth.

Micha 1:1-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Micha y Morasthiad yn nyddiau Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, yr hwn a welodd efe am Samaria a Jerwsalem. Gwrandewch, bobl oll; clyw dithau, y ddaear, ac sydd ynddi; a bydded yr ARGLWYDD DDUW yn dyst i’ch erbyn, yr Arglwydd o’i deml sanctaidd. Canys wele yr ARGLWYDD yn dyfod o’i le; efe hefyd a ddisgyn, ac a sathr ar uchelderau y ddaear. A’r mynyddoedd a doddant tano ef, a’r glynnoedd a ymholltant fel cwyr o flaen y tân, ac fel y dyfroedd a dywelltir ar y goriwaered. Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob, ac am bechodau tŷ Israel. Beth yw anwiredd Jacob? onid Samaria? Pa rai yw uchel leoedd Jwda? onid Jerwsalem? Am hynny y gosodaf Samaria yn garneddfaes dda i blannu gwinllan; a gwnaf i’w cherrig dreiglo i’r dyffryn, a datguddiaf ei sylfeini. A’i holl ddelwau cerfiedig a gurir yn ddrylliau, a’i holl wobrau a losgir yn tân, a’i holl eilunod a osodaf yn anrheithiedig: oherwydd o wobr putain y casglodd hi hwynt, ac yn wobr putain y dychwelant. Oherwydd hyn galaraf ac udaf; cerddaf yn noeth ac yn llwm: gwnaf alar fel dreigiau, a gofid fel cywion y dylluan. Oherwydd dolurus yw ei harcholl: canys daeth hyd at Jwda; daeth hyd borth fy mhobl, hyd Jerwsalem. Na fynegwch hyn yn Gath; gan wylo nac wylwch ddim: ymdreigla mewn llwch yn nhŷ Affra. Dos heibio, preswylferch Saffir, yn noeth dy warth: ni ddaeth preswylferch Saanan allan yng ngalar Beth-esel, efe a dderbyn gennych ei sefyllfan. Canys trigferch Maroth a ddisgwyliodd yn ddyfal am ddaioni; eithr drwg a ddisgynnodd oddi wrth yr ARGLWYDD hyd at borth Jerwsalem. Preswylferch Lachis, rhwym y cerbyd wrth y buanfarch: dechreuad pechod yw hi i ferch Seion: canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel. Am hynny y rhoddi anrhegion i Moreseth-gath: tai Achsib a fyddant yn gelwydd i frenhinoedd Israel. Eto mi a ddygaf etifedd i ti, preswylferch Maresa: daw hyd Adulam, gogoniant Israel. Ymfoela, ac ymeillia am dy blant moethus: helaetha dy foelder fel eryr; canys caethgludwyd hwynt oddi wrthyt.