Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Micha 1:1-16

Micha 1:1-16 BCND

Gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Micha o Moreseth yn nyddiau Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda. Dyma'i weledigaethau am Samaria a Jerwsalem. Gwrandewch, bobloedd, bawb ohonoch; clyw dithau, ddaear, a phopeth ynddi. Y mae'r Arglwydd DDUW, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd, yn dyst yn eich erbyn. Wele'r ARGLWYDD yn dod allan o'i drigfan, yn dod i lawr ac yn troedio ar uchelderau'r ddaear. Y mae'r mynyddoedd yn toddi dano, a'r dyffrynnoedd yn hollti'n agored, fel cwyr o flaen tân, fel dyfroedd wedi eu tywallt ar oriwaered. Am drosedd Jacob y mae hyn oll, ac am bechod tŷ Israel. Beth yw trosedd Jacob? Onid Samaria? Beth yw pechod tŷ Jwda? Onid Jerwsalem? “Am hynny, gwnaf Samaria yn garnedd ar faes agored, yn lle i blannu gwinwydd; gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn, a dinoethaf ei sylfeini. Malurir ei holl gerfddelwau, llosgir ei holl enillion yn y tân, a gwnaf ddifrod o'i delwau; o enillion puteindra y casglodd hwy, ac yn dâl puteindra y dychwelant.” Am hyn y galaraf ac yr wylaf, a mynd yn noeth a heb esgidiau; galarnadaf fel y siacal, a llefain fel tylluanod yr anialwch, am nad oes meddyginiaeth i'w chlwyf; oherwydd daeth hyd at Jwda, a chyrraedd at borth fy mhobl, hyd at Jerwsalem. Peidiwch â chyhoeddi'r peth yn Gath, a pheidiwch ag wylo yn Baca; yn Beth-affra ymdreiglwch yn y llwch. Ewch ymlaen, drigolion Saffir; onid mewn noethni a chywilydd yr â trigolion Saanan allan? Galar sydd yn Beth-esel, a pheidiodd â bod yn gynhaliaeth i chwi. Mewn gwewyr am newydd da y mae trigolion Maroth, oherwydd i ddrygioni oddi wrth yr ARGLWYDD ddod hyd at borth Jerwsalem. Harneisiwch y meirch wrth y cerbydau, drigolion Lachis; chwi oedd cychwyn pechod i ferch Seion, ac ynoch chwi y caed troseddau Israel. Felly, rhodder anrheg ymadael i Moreseth-gath; y mae Beth-achsib yn dwyllodrus i frenhinoedd Israel. Dygaf eto yr anrheithiwr at bobl Maresa, a bydd gogoniant Israel yn mynd i Adulam. Eillia dy ben a gwna dy hun yn foel, am y plant a hoffaist; gwna dy hun yn foel fel eryr, am iddynt fynd oddi wrthyt i gaethglud.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Micha 1:1-16