Mathew 4:13-17
Mathew 4:13-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond yn lle mynd i Nasareth, aeth i fyw i Capernaum sydd ar lan y llyn yn ardal Sabulon a Nafftali. Felly roedd beth ddwedodd Duw drwy’r proffwyd Eseia yn dod yn wir: “Tir Sabulon a thir Nafftali, sydd ar Ffordd y Môr, a’r ardal yr ochr draw i afon Iorddonen, hynny ydy Galilea, lle mae pobl o genhedloedd eraill yn byw – Mae’r bobl oedd yn byw mewn tywyllwch wedi gweld golau llachar; ac mae golau wedi gwawrio ar y rhai sy’n byw dan gysgod marwolaeth.” Dyna pryd y dechreuodd Iesu gyhoeddi ei neges, “Trowch gefn ar bechod, achos mae’r Un nefol yn dod i deyrnasu.”
Mathew 4:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A chan adael Nasareth aeth i fyw i Gapernaum, tref ar lan y môr yng nghyffiniau Sabulon a Nafftali, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd: “Gwlad Sabulon a gwlad Nafftali, ar y ffordd i'r môr, tu hwnt i'r Iorddonen, Galilea'r Cenhedloedd; y bobl oedd yn trigo mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr, ac ar drigolion tir cysgod angau y gwawriodd goleuni.” O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu bregethu'r genadwri hon: “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.”
Mathew 4:13-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A chan ado Nasareth, efe a aeth ac a arhosodd yng Nghapernaum, yr hon sydd wrth y môr, yng nghyffiniau Sabulon a Neffthali: Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Tir Sabulon, a thir Neffthali, wrth ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, Galilea’r Cenhedloedd: Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr; ac i’r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau, y cyfododd goleuni iddynt. O’r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.