Mathew 25:37-40
Mathew 25:37-40 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ond bydd y rhai cyfiawn yma yn gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni ti’n llwgu a rhoi rhywbeth i ti i’w fwyta, neu’n sychedig a rhoi diod i ti? Pryd wnaethon ni dy groesawu di pan oeddet ti’n nabod neb, neu roi dillad i ti pan oeddet ti’n noeth? Pryd welon ni ti’n sâl neu yn y carchar a mynd i ymweld â ti?’ A bydd y Brenin yn ateb, ‘Credwch chi fi, pan wnaethoch chi helpu’r person lleiaf pwysig sy’n perthyn i mi, gwnaethoch chi fy helpu i.’
Mathew 25:37-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna bydd y rhai cyfiawn yn ei ateb: ‘Arglwydd,’ gofynnant, ‘pryd y'th welsom di'n newynog a'th borthi, neu'n sychedig a rhoi diod iti? A phryd y'th welsom di'n ddieithr a'th gymryd i'n cartref, neu'n noeth a rhoi dillad amdanat? Pryd y'th welsom di'n glaf neu yng ngharchar ac ymweld â thi?’ A bydd y Brenin yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.’
Mathew 25:37-40 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, ac y’th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoesom iti ddiod? A pha bryd y’th welsom yn ddieithr, ac y’th ddygasom gyda ni? neu yn noeth, ac y’th ddilladasom? A pha bryd y’th welsom yn glaf, neu yng ngharchar, ac y daethom atat? A’r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch.