Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 25

25
1Yna tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forynion, y rhai a gymerasant eu lampau, ac a aethant allan i gyfarfod â’r priodfab. 2A phump ohonynt oedd gall, a phump yn ffôl. 3Y rhai oedd ffôl a gymerasant eu lampau, ac ni chymerasant olew gyda hwynt: 4A’r rhai call a gymerasant olew yn eu llestri gyda’u lampau. 5A thra oedd y priodfab yn aros yn hir, yr hepiasant oll ac yr hunasant. 6Ac ar hanner nos y bu gwaedd, Wele, y mae’r priodfab yn dyfod; ewch allan i gyfarfod ag ef. 7Yna y cyfododd yr holl forynion hynny, ac a drwsiasant eu lampau. 8A’r rhai ffôl a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o’ch olew chwi: canys y mae ein lampau yn diffoddi. 9A’r rhai call a atebasant, gan ddywedyd, Nid felly; rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain. 10A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab; a’r rhai oedd barod, a aethant i mewn gydag ef i’r briodas: a chaewyd y drws. 11Wedi hynny y daeth y morynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni. 12Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid adwaen chwi. 13Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch na’r dydd na’r awr y daw Mab y dyn.
14Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda atynt. 15Ac i un y rhoddodd efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ôl ei allu ei hun; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref. 16A’r hwn a dderbyniasai’r pum talent a aeth, ac a farchnataodd â hwynt, ac a wnaeth bum talent eraill. 17A’r un modd yr hwn a dderbyniasai’r ddwy, a enillodd yntau ddwy eraill. 18Ond yr hwn a dderbyniasai un, a aeth, ac a gloddiodd yn y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd. 19Ac wedi llawer o amser, y mae arglwydd y gweision hynny yn dyfod, ac yn cyfrif â hwynt. 20A daeth yr hwn a dderbyniasai bum talent, ac a ddug bum talent eraill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum talent a roddaist ataf: wele, mi a enillais bum talent eraill atynt. 21A dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a’th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd. 22A’r hwn a dderbyniasai ddwy dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist ataf: wele, dwy eraill a enillais atynt. 23Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a’th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd. 24A’r hwn a dderbyniasai’r un dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, mi a’th adwaenwn di, mai gŵr caled ydwyt, yn medi lle nis heuaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist: 25A mi a ofnais, ac a euthum, ac a guddiais dy dalent yn y ddaear: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun. 26A’i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O was drwg a diog, ti a wyddit fy mod yn medi lle nis heuais, ac yn casglu lle nis gwasgerais: 27Am hynny y dylesit ti roddi fy arian at y cyfnewidwyr; a mi, pan ddaethwn, a gawswn dderbyn yr eiddof fy hun gyda llog. 28Cymerwch gan hynny y dalent oddi wrtho, a rhoddwch i’r hwn sydd ganddo ddeg talent. 29Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd; ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo. 30A bwriwch allan y gwas anfuddiol i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
31A Mab y dyn, pan ddêl yn ei ogoniant, a’r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant. 32A chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a’u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola’r bugail y defaid oddi wrth y geifr: 33Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy. 34Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd. 35Canys bûm newynog, a chwi a roesoch imi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch imi ddiod: bûm ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi: 36Noeth, a dilladasoch fi: bûm glaf, ac ymwelsoch â mi: bûm yng ngharchar, a daethoch ataf. 37Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, ac y’th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoesom iti ddiod? 38A pha bryd y’th welsom yn ddieithr, ac y’th ddygasom gyda ni? neu yn noeth, ac y’th ddilladasom? 39A pha bryd y’th welsom yn glaf, neu yng ngharchar, ac y daethom atat? 40A’r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch. 41Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy, Ewch oddi wrthyf, rai melltigedig, i’r tân tragwyddol, yr hwn a baratowyd i ddiafol ac i’w angylion. 42Canys bûm newynog, ac ni roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod: 43Bûm ddieithr, ac ni’m dygasoch gyda chwi: noeth, ac ni’m dilladasoch: yn glaf ac yng ngharchar, ac nid ymwelsoch â mi. 44Yna yr atebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yng ngharchar, ac ni weiniasom iti? 45Yna yr etyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint ag nas gwnaethoch i’r un o’r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau. 46A’r rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.

Dewis Presennol:

Mathew 25: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd