Mathew 25:31-36
Mathew 25:31-36 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Pan fydd Mab y Dyn yn dod yn ôl, bydd yn dod fel brenin i deyrnasu. Bydd yn dod mewn ysblander, a’r holl angylion gydag e, ac yn eistedd ar yr orsedd hardd sydd yno ar ei gyfer yn y nefoedd. Bydd yr holl genhedloedd yn cael eu casglu o’i flaen, a bydd yn eu rhannu’n ddau grŵp fel mae bugail yn gwahanu’r defaid a’r geifr. Bydd yn rhoi’r defaid ar ei ochr dde a’r geifr ar ei ochr chwith. “Dyma fydd y Brenin yn ei ddweud wrth y rhai sydd ar ei ochr dde, ‘Chi ydy’r rhai mae fy Nhad wedi’u bendithio, felly dewch i dderbyn eich etifeddiaeth. Mae’r cwbl wedi’i baratoi ar eich cyfer ers i’r byd gael ei greu. Dewch, oherwydd chi roddodd fwyd i mi pan oeddwn i’n llwgu; chi roddodd ddiod i mi pan oedd syched arna i; chi roddodd groeso i mi pan doeddwn i ddim yn nabod neb; chi roddodd ddillad i mi pan oeddwn i’n noeth; chi ofalodd amdana i pan oeddwn i’n sâl; chi ddaeth i ymweld â mi pan oeddwn i yn y carchar.’
Mathew 25:31-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant. Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli'r defaid oddi wrth y geifr, ac fe esyd y defaid ar ei law dde a'r geifr ar y chwith. Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, ‘Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd. Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i'ch cartref; bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch â mi, bûm yng ngharchar a daethoch ataf.’
Mathew 25:31-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Mab y dyn, pan ddêl yn ei ogoniant, a’r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant. A chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a’u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola’r bugail y defaid oddi wrth y geifr: Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy. Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd. Canys bûm newynog, a chwi a roesoch imi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch imi ddiod: bûm ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi: Noeth, a dilladasoch fi: bûm glaf, ac ymwelsoch â mi: bûm yng ngharchar, a daethoch ataf.