Mathew 25:14-46
Mathew 25:14-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Y mae fel dyn a oedd yn mynd oddi cartref ac a alwodd ei weision a rhoi ei eiddo yn eu gofal. I un fe roddodd bum cod o arian, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn ôl ei allu, ac fe aeth oddi cartref. Ar unwaith aeth yr un a dderbyniodd bum cod a masnachu â hwy, ac fe enillodd atynt bump arall. Felly hefyd enillodd yr un a gafodd ddwy god ddwy arall atynt. Ond y sawl a dderbyniodd un god, aeth ef ymaith a chloddio twll yn y ddaear a chuddio arian ei feistr. Ymhen cryn dipyn o amser daeth meistr y gweision hynny yn ôl ac fe adolygodd eu cyfrifon hwy. Daeth yr un a dderbyniodd bum cod a chyflwyno iddo bump arall. ‘Meistr,’ meddai, ‘rhoddaist bum cod o arian yn fy ngofal; dyma bum cod arall a enillais i atynt.’ ‘Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon,’ meddai ei feistr wrtho, ‘buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.’ Yna daeth yr un â'r ddwy god, a dywedodd, ‘Meistr, rhoddaist ddwy god o arian yn fy ngofal; dyma ddwy god arall a enillais i atynt.’ Meddai ei feistr wrtho, ‘Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon; buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.’ Yna daeth yr un oedd wedi derbyn un god, a dywedodd, ‘Meistr, gwyddwn dy fod yn ddyn caled, yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill. Yn fy ofn euthum a chuddio dy god o arian yn y ddaear. Dyma i ti dy eiddo yn ôl.’ Atebodd ei feistr ef, ‘Y gwas drwg a diog, yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill. Dylit felly fod wedi gosod fy arian yn y banc, a buasai fy eiddo wedi ennill llog erbyn i mi ddod i'w hawlio. Felly cymerwch y god o arian oddi arno a rhowch hi i'r un a chanddo ddeg cod. Oherwydd i bawb y mae ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon, ond oddi ar yr hwn nad oes ganddo fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo. A bwriwch y gwas diwerth i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.’ “Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant. Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli'r defaid oddi wrth y geifr, ac fe esyd y defaid ar ei law dde a'r geifr ar y chwith. Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, ‘Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd. Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i'ch cartref; bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch â mi, bûm yng ngharchar a daethoch ataf.’ Yna bydd y rhai cyfiawn yn ei ateb: ‘Arglwydd,’ gofynnant, ‘pryd y'th welsom di'n newynog a'th borthi, neu'n sychedig a rhoi diod iti? A phryd y'th welsom di'n ddieithr a'th gymryd i'n cartref, neu'n noeth a rhoi dillad amdanat? Pryd y'th welsom di'n glaf neu yng ngharchar ac ymweld â thi?’ A bydd y Brenin yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.’ “Yna fe ddywed wrth y rhai ar y chwith, ‘Ewch oddi wrthyf, chwi sydd dan felltith, i'r tân tragwyddol a baratowyd i'r diafol a'i angylion. Bûm yn newynog ac ni roesoch fwyd imi, bûm yn sychedig ac ni roesoch ddiod imi; bûm yn ddieithr ac ni chymerasoch fi i'ch cartref, yn noeth ac ni roesoch ddillad amdanaf, yn glaf ac yng ngharchar ac nid ymwelsoch â mi.’ Yna atebant hwythau: ‘Arglwydd,’ gofynnant, ‘pryd y'th welsom di'n newynog neu'n sychedig neu'n ddieithr neu'n noeth neu'n glaf neu yng ngharchar heb weini arnat?’ A bydd ef yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi beidio â'i wneud i un o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau chwaith.’ Ac fe â'r rhain ymaith i gosb dragwyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.”
Mathew 25:14-46 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Pan ddaw’r Un nefol i deyrnasu, bydd yr un fath â dyn yn mynd oddi cartref: Galwodd ei weision at ei gilydd a rhoi ei eiddo i gyd yn eu gofal nhw. Rhoddodd swm arbennig yng ngofal pob un yn ôl ei allu – pum talent (hynny ydy tri deg mil o ddarnau arian) i un, dwy dalent (hynny ydy deuddeg mil) i un arall, ac un dalent (hynny ydy chwe mil) i’r llall. Wedyn aeth i ffwrdd ar ei daith. Dyma’r gwas oedd wedi cael pum talent yn bwrw iddi ar unwaith i farchnata gyda’i arian, a llwyddodd i ddyblu’r swm oedd ganddo. Llwyddodd yr un gyda dwy dalent i wneud yr un peth. Ond y cwbl wnaeth yr un gafodd un dalent oedd gwneud twll yn y ddaear a chadw arian ei feistr yn saff ynddo. “Aeth amser hir heibio, yna o’r diwedd daeth y meistr yn ôl adre a galw’i weision i roi cyfri am yr arian oedd wedi’i roi yn eu gofal nhw. Dyma’r un oedd wedi derbyn y pum talent yn dod a dweud wrtho, ‘Feistr, rhoist ti dri deg mil o ddarnau arian yn fy ngofal i. Dw i wedi llwyddo i wneud tri deg mil arall.’ “‘Da iawn ti!’ meddai’r meistr, ‘Rwyt ti’n weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti! Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, felly dw i’n mynd i roi llawer iawn mwy o gyfrifoldeb i ti. Tyrd gyda mi i ddathlu!’ “Wedyn dyma’r un oedd wedi derbyn dwy dalent yn dod ac yn dweud, ‘Feistr, rhoist ti ddeuddeg mil o ddarnau arian yn fy ngofal i. Dw i wedi llwyddo i wneud deuddeg mil arall.’ “‘Da iawn ti!’ meddai’r meistr, ‘Rwyt ti’n weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti! Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, felly dw i’n mynd i roi llawer iawn mwy o gyfrifoldeb i ti. Tyrd gyda mi i ddathlu!’ “Wedyn dyma’r un oedd wedi derbyn un dalent yn dod. ‘Feistr,’ meddai, ‘Mae pawb yn gwybod dy fod ti’n ddyn caled. Rwyt ti’n ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw. Roedd gen i ofn gwneud colled, felly dw i wedi cadw dy arian di’n saff mewn twll yn y ddaear. Felly dyma dy arian yn ôl – mae’r cwbl yna.’ “Dyma’r meistr yn ei ateb, ‘Y cnaf diog, da i ddim! Dw i’n ddyn caled ydw i – yn ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw? Dylet ti o leia fod wedi rhoi’r arian mewn cyfri cadw yn y banc, i mi ei gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’ “Cymerwch yr arian oddi arno, a’i roi i’r un cyntaf sydd â deg talent ganddo. Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy, a bydd ganddyn nhw ddigonedd. Ond am y rhai sy’n gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw! Taflwch y gwas diwerth i’r tywyllwch, lle bydd pobl yn wylo’n chwerw ac mewn artaith! “Pan fydd Mab y Dyn yn dod yn ôl, bydd yn dod fel brenin i deyrnasu. Bydd yn dod mewn ysblander, a’r holl angylion gydag e, ac yn eistedd ar yr orsedd hardd sydd yno ar ei gyfer yn y nefoedd. Bydd yr holl genhedloedd yn cael eu casglu o’i flaen, a bydd yn eu rhannu’n ddau grŵp fel mae bugail yn gwahanu’r defaid a’r geifr. Bydd yn rhoi’r defaid ar ei ochr dde a’r geifr ar ei ochr chwith. “Dyma fydd y Brenin yn ei ddweud wrth y rhai sydd ar ei ochr dde, ‘Chi ydy’r rhai mae fy Nhad wedi’u bendithio, felly dewch i dderbyn eich etifeddiaeth. Mae’r cwbl wedi’i baratoi ar eich cyfer ers i’r byd gael ei greu. Dewch, oherwydd chi roddodd fwyd i mi pan oeddwn i’n llwgu; chi roddodd ddiod i mi pan oedd syched arna i; chi roddodd groeso i mi pan doeddwn i ddim yn nabod neb; chi roddodd ddillad i mi pan oeddwn i’n noeth; chi ofalodd amdana i pan oeddwn i’n sâl; chi ddaeth i ymweld â mi pan oeddwn i yn y carchar.’ “Ond bydd y rhai cyfiawn yma yn gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni ti’n llwgu a rhoi rhywbeth i ti i’w fwyta, neu’n sychedig a rhoi diod i ti? Pryd wnaethon ni dy groesawu di pan oeddet ti’n nabod neb, neu roi dillad i ti pan oeddet ti’n noeth? Pryd welon ni ti’n sâl neu yn y carchar a mynd i ymweld â ti?’ A bydd y Brenin yn ateb, ‘Credwch chi fi, pan wnaethoch chi helpu’r person lleiaf pwysig sy’n perthyn i mi, gwnaethoch chi fy helpu i.’ “Yna bydd yn dweud wrth y rhai sydd ar ei ochr chwith, ‘Dych chi wedi’ch melltithio! Ewch i ffwrdd oddi wrtho i, i’r tân tragwyddol sydd wedi’i baratoi i’r diafol a’i gythreuliaid. Roesoch chi ddim byd i mi pan oeddwn i’n llwgu; roesoch chi ddim diod i mi pan oedd syched arna i; ches i ddim croeso gynnoch chi pan oeddwn i’n ddieithr; roesoch chi ddim dillad i mi eu gwisgo pan oeddwn i’n noeth; a wnaethoch chi ddim gofalu amdana i pan oeddwn i’n sâl ac yn y carchar.’ “A byddan nhw’n gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni ti’n llwgu neu’n sychedig, neu’n nabod neb neu’n noeth neu’n sâl neu yn y carchar, a gwrthod dy helpu di?’ Bydd yn ateb, ‘Credwch chi fi, beth bynnag wrthodoch chi ei wneud i helpu’r un lleiaf pwysig o’r rhain, gwrthodoch chi ei wneud i mi.’ “Wedyn byddan nhw’n mynd i ffwrdd i gael eu cosbi’n dragwyddol, ond bydd y rhai wnaeth y peth iawn yn cael bywyd tragwyddol.”
Mathew 25:14-46 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda atynt. Ac i un y rhoddodd efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ôl ei allu ei hun; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref. A’r hwn a dderbyniasai’r pum talent a aeth, ac a farchnataodd â hwynt, ac a wnaeth bum talent eraill. A’r un modd yr hwn a dderbyniasai’r ddwy, a enillodd yntau ddwy eraill. Ond yr hwn a dderbyniasai un, a aeth, ac a gloddiodd yn y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd. Ac wedi llawer o amser, y mae arglwydd y gweision hynny yn dyfod, ac yn cyfrif â hwynt. A daeth yr hwn a dderbyniasai bum talent, ac a ddug bum talent eraill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum talent a roddaist ataf: wele, mi a enillais bum talent eraill atynt. A dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a’th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd. A’r hwn a dderbyniasai ddwy dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist ataf: wele, dwy eraill a enillais atynt. Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a’th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd. A’r hwn a dderbyniasai’r un dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, mi a’th adwaenwn di, mai gŵr caled ydwyt, yn medi lle nis heuaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist: A mi a ofnais, ac a euthum, ac a guddiais dy dalent yn y ddaear: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun. A’i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O was drwg a diog, ti a wyddit fy mod yn medi lle nis heuais, ac yn casglu lle nis gwasgerais: Am hynny y dylesit ti roddi fy arian at y cyfnewidwyr; a mi, pan ddaethwn, a gawswn dderbyn yr eiddof fy hun gyda llog. Cymerwch gan hynny y dalent oddi wrtho, a rhoddwch i’r hwn sydd ganddo ddeg talent. Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd; ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo. A bwriwch allan y gwas anfuddiol i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. A Mab y dyn, pan ddêl yn ei ogoniant, a’r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant. A chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a’u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola’r bugail y defaid oddi wrth y geifr: Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy. Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd. Canys bûm newynog, a chwi a roesoch imi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch imi ddiod: bûm ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi: Noeth, a dilladasoch fi: bûm glaf, ac ymwelsoch â mi: bûm yng ngharchar, a daethoch ataf. Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, ac y’th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoesom iti ddiod? A pha bryd y’th welsom yn ddieithr, ac y’th ddygasom gyda ni? neu yn noeth, ac y’th ddilladasom? A pha bryd y’th welsom yn glaf, neu yng ngharchar, ac y daethom atat? A’r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch. Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy, Ewch oddi wrthyf, rai melltigedig, i’r tân tragwyddol, yr hwn a baratowyd i ddiafol ac i’w angylion. Canys bûm newynog, ac ni roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod: Bûm ddieithr, ac ni’m dygasoch gyda chwi: noeth, ac ni’m dilladasoch: yn glaf ac yng ngharchar, ac nid ymwelsoch â mi. Yna yr atebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yng ngharchar, ac ni weiniasom iti? Yna yr etyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint ag nas gwnaethoch i’r un o’r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau. A’r rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.