Mathew 25:14-15
Mathew 25:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Y mae fel dyn a oedd yn mynd oddi cartref ac a alwodd ei weision a rhoi ei eiddo yn eu gofal. I un fe roddodd bum cod o arian, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn ôl ei allu, ac fe aeth oddi cartref.
Mathew 25:14-15 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Pan ddaw’r Un nefol i deyrnasu, bydd yr un fath â dyn yn mynd oddi cartref: Galwodd ei weision at ei gilydd a rhoi ei eiddo i gyd yn eu gofal nhw. Rhoddodd swm arbennig yng ngofal pob un yn ôl ei allu – pum talent (hynny ydy tri deg mil o ddarnau arian) i un, dwy dalent (hynny ydy deuddeg mil) i un arall, ac un dalent (hynny ydy chwe mil) i’r llall. Wedyn aeth i ffwrdd ar ei daith.
Mathew 25:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda atynt. Ac i un y rhoddodd efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ôl ei allu ei hun; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref.