Mathew 22:23-46
Mathew 22:23-46 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yr un diwrnod dyma rhai o’r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn iddo. Nhw oedd yn dadlau fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw. “Athro,” medden nhw, “Dwedodd Moses, ‘os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i’w frawd briodi’r weddw a chael plant yn ei le.’” “Nawr, roedd saith brawd yn ein plith ni. Priododd y cyntaf, ond buodd farw cyn cael plant. A digwyddodd yr un peth i’r ail a’r trydydd, reit i lawr i’r seithfed. Y wraig ei hun oedd yr olaf i farw. Dyma’n cwestiwn ni: Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pa un o’r saith fydd hi? Roedd hi wedi bod yn wraig iddyn nhw i gyd!” Atebodd Iesu, “Dych chi’n deall dim! Dych chi ddim wedi deall yr ysgrifau sanctaidd a dych chi’n gwybod dim byd am allu Duw. Fydd pobl ddim yn priodi pan ddaw’r atgyfodiad; byddan nhw yr un fath â’r angylion yn y nefoedd. A bydd yna atgyfodiad! Ydych chi ddim wedi darllen beth ddwedodd Duw? – ‘Fi ydy Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.’ Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw’r rhai sy’n fyw!” Roedd y dyrfa yn rhyfeddu wrth glywed yr hyn oedd Iesu’n ei ddysgu. Ar ôl clywed fod Iesu wedi rhoi taw ar y Sadwceaid, daeth y Phariseaid at ei gilydd. Dyma un ohonyn nhw, oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith, yn gofyn cwestiwn i geisio ei faglu: “Athro, Pa un o’r gorchmynion yn y Gyfraith ydy’r pwysica?” Atebodd Iesu: “ ‘Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid a’th holl feddwl.’ Dyma’r gorchymyn cyntaf a’r pwysica. Ond mae yna ail un sydd yr un fath: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.’ Mae’r cwbl sydd yn y Gyfraith a’r Proffwydi yn dibynnu ar y ddau orchymyn yma.” Tra oedd y Phariseaid yno gyda’i gilydd, gofynnodd Iesu gwestiwn iddyn nhw, “Beth ydy’ch barn chi am y Meseia? Mab pwy ydy e?” “Mab Dafydd,” medden nhw. A dyma Iesu’n dweud, “Os felly, sut mae Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd, yn ei alw’n ‘Arglwydd’? Achos mae’n dweud, ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd, nes i mi osod dy elynion dan dy draed.”’ Os ydy Dafydd yn ei alw’n ‘Arglwydd’, sut mae’n gallu bod yn fab iddo?” Doedd gan yr un ohonyn nhw ateb, felly o hynny ymlaen wnaeth neb feiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.
Mathew 22:23-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr un diwrnod daeth ato Sadwceaid yn dweud nad oes dim atgyfodiad. Gofynasant iddo, “Athro, dywedodd Moses, ‘Os bydd rhywun farw heb blant ganddo, y mae ei frawd i briodi'r wraig ac i godi plant i'w frawd.’ Yr oedd saith o frodyr yn ein plith; priododd y cyntaf, a bu farw, a chan nad oedd plant ganddo gadawodd ei wraig i'w frawd. A'r un modd yr ail a'r trydydd, hyd at y seithfed. Yn olaf oll bu farw'r wraig. Yn yr atgyfodiad, felly, gwraig p'run o'r saith fydd hi? Oherwydd cafodd pob un hi'n wraig.” Atebodd Iesu hwy, “Yr ydych yn cyfeiliorni am nad ydych yn deall na'r Ysgrythurau na gallu Duw. Oherwydd yn yr atgyfodiad ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nef. Ond ynglŷn ag atgyfodiad y meirw, onid ydych wedi darllen y gair a lefarwyd wrthych gan Dduw, ‘Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf’? Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw.” A phan glywodd y tyrfaoedd yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu. Clywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid, a daethant at ei gilydd. Ac i roi prawf arno, gofynnodd un ohonynt, ac yntau'n athro'r Gyfraith, “Athro, pa orchymyn yw'r mwyaf yn y Gyfraith?” Dywedodd Iesu wrtho, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl.’ Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysicaf. Ac y mae'r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl Gyfraith a'r proffwydi yn dibynnu.” Yr oedd y Phariseaid wedi ymgynnull, a gofynnodd Iesu iddynt, “Beth yw eich barn chwi ynglŷn â'r Meseia? Mab pwy ydyw?” “Mab Dafydd,” meddent wrtho. “Sut felly,” gofynnodd Iesu, “y mae Dafydd trwy'r Ysbryd yn ei alw'n Arglwydd, pan ddywed: “ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, “Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion dan dy draed” ’? “Os yw Dafydd felly yn ei alw'n Arglwydd, sut y mae'n fab iddo?” Ac nid oedd neb yn gallu ateb gair iddo, ac o'r diwrnod hwnnw ni feiddiodd neb ei holi ddim mwy.
Mathew 22:23-46 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y dydd hwnnw y daeth ato y Sadwceaid, y rhai sydd yn dywedyd nad oes atgyfodiad, ac a ofynasant iddo, Gan ddywedyd, Athro, dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded had i’w frawd. Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr: a’r cyntaf a briododd wraig, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth iddo, a adawodd ei wraig i’w frawd. Felly hefyd yr ail, a’r trydydd, hyd y seithfed. Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd. Yn yr atgyfodiad, gan hynny, gwraig i bwy o’r saith fydd hi? canys hwynt-hwy oll a’i cawsant hi. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch yr ysgrythurau, na gallu Duw. Oblegid yn yr atgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra; eithr y maent fel angylion Duw yn y nef. Ac am atgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw. A phan glybu’r torfeydd hynny, hwy a synasant wrth ei athrawiaeth ef. Ac wedi clywed o’r Phariseaid ddarfod i’r Iesu ostegu’r Sadwceaid, hwy a ymgynullasant ynghyd i’r un lle. Ac un ohonynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd iddo, gan ei demtio, a dywedyd, Athro, pa un yw’r gorchymyn mawr yn y gyfraith? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl. Hwn yw’r cyntaf, a’r gorchymyn mawr. A’r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymydog fel ti dy hun. Ar y ddau orchymyn hyn y mae’r holl gyfraith a’r proffwydi yn sefyll. Ac wedi ymgasglu o’r Phariseaid ynghyd, yr Iesu a ofynnodd iddynt, Gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mab i bwy ydyw? Dywedent wrtho, Mab Dafydd. Dywedai yntau wrthynt, Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr ysbryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd, Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed di? Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo? Ac ni allodd neb ateb gair iddo, ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnnw allan ymofyn ag ef mwyach.