Yr un diwrnod dyma rhai o’r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn iddo. Nhw oedd yn dadlau fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw. “Athro,” medden nhw, “Dwedodd Moses, ‘os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i’w frawd briodi’r weddw a chael plant yn ei le.’”
“Nawr, roedd saith brawd yn ein plith ni. Priododd y cyntaf, ond buodd farw cyn cael plant. A digwyddodd yr un peth i’r ail a’r trydydd, reit i lawr i’r seithfed. Y wraig ei hun oedd yr olaf i farw. Dyma’n cwestiwn ni: Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pa un o’r saith fydd hi? Roedd hi wedi bod yn wraig iddyn nhw i gyd!”
Atebodd Iesu, “Dych chi’n deall dim! Dych chi ddim wedi deall yr ysgrifau sanctaidd a dych chi’n gwybod dim byd am allu Duw. Fydd pobl ddim yn priodi pan ddaw’r atgyfodiad; byddan nhw yr un fath â’r angylion yn y nefoedd. A bydd yna atgyfodiad! Ydych chi ddim wedi darllen beth ddwedodd Duw? – ‘Fi ydy Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.’ Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw’r rhai sy’n fyw!”
Roedd y dyrfa yn rhyfeddu wrth glywed yr hyn oedd Iesu’n ei ddysgu.
Ar ôl clywed fod Iesu wedi rhoi taw ar y Sadwceaid, daeth y Phariseaid at ei gilydd. Dyma un ohonyn nhw, oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith, yn gofyn cwestiwn i geisio ei faglu: “Athro, Pa un o’r gorchmynion yn y Gyfraith ydy’r pwysica?”
Atebodd Iesu: “ ‘Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid a’th holl feddwl.’ Dyma’r gorchymyn cyntaf a’r pwysica. Ond mae yna ail un sydd yr un fath: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.’ Mae’r cwbl sydd yn y Gyfraith a’r Proffwydi yn dibynnu ar y ddau orchymyn yma.”
Tra oedd y Phariseaid yno gyda’i gilydd, gofynnodd Iesu gwestiwn iddyn nhw, “Beth ydy’ch barn chi am y Meseia? Mab pwy ydy e?”
“Mab Dafydd,” medden nhw.
A dyma Iesu’n dweud, “Os felly, sut mae Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd, yn ei alw’n ‘Arglwydd’? Achos mae’n dweud,
‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd:
“Eistedd yma yn y sedd anrhydedd,
nes i mi osod dy elynion dan dy draed.”’
Os ydy Dafydd yn ei alw’n ‘Arglwydd’, sut mae’n gallu bod yn fab iddo?”
Doedd gan yr un ohonyn nhw ateb, felly o hynny ymlaen wnaeth neb feiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.