Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 20:1-15

Mathew 20:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

“Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i berchen tŷ a aeth allan gyda'r bore bach i gyflogi gweithwyr i'w winllan. Cytunodd â'r gweithwyr am dâl o un darn arian y dydd ac anfonodd hwy i'w winllan. Aeth allan eilwaith tua naw o'r gloch y bore, a gwelodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnad. Dywedodd wrthynt hwythau, ‘Ewch chwi hefyd i'r winllan, ac fe dalaf i chwi beth bynnag fydd yn deg’; ac aethant yno. Yna fe aeth allan eto tua chanol dydd, a thua thri o'r gloch y prynhawn, a gwneud fel o'r blaen. Tua phump o'r gloch aeth allan a dod o hyd i eraill yn sefyll yno, ac meddai wrthynt, ‘Pam yr ydych yn sefyll yma drwy'r dydd yn segur?’ ‘Am na chyflogodd neb ni,’ oedd eu hateb. ‘Ewch chwi hefyd i'r winllan,’ meddai ef. Gyda'r nos dyma berchen y winllan yn dweud wrth ei oruchwyliwr, ‘Galw'r gweithwyr, a thâl eu cyflog iddynt, gan ddechrau gyda'r rhai diwethaf a dibennu gyda'r cyntaf.’ Daeth y rhai a gyflogwyd tua phump o'r gloch, a derbyniasant un darn arian yr un. A phan ddaeth y rhai a gyflogwyd gyntaf, tybiasant y caent fwy, ond un darn arian yr un a gawsant hwythau hefyd. Ac wedi eu cael dechreusant rwgnach yn erbyn y perchen tŷ gan ddweud, ‘Dim ond un awr y gweithiodd y rhai diwethaf yma, a gwnaethost hwy'n gyfartal â ni, sydd wedi llafurio drwy'r dydd yn y gwres tanbaid.’ Ond atebodd y meistr: ‘Gyfaill,’ meddai wrth un ohonynt, ‘nid wyf yn gwneud cam â thi. Onid am un darn arian y cytunaist â mi? Cymer yr hyn sydd i ti a dos ymaith. Rwy'n dewis rhoi i'r olaf yma fel i tithau. Onid yw'n gyfreithlon imi wneud fel rwy'n dewis â'm heiddo fy hun? Neu ai cenfigen yw dy ymateb i'm haelioni?

Mathew 20:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Canys teyrnas nefoedd sydd debyg i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweithwyr i’w winllan. Ac wedi cytuno â’r gweithwyr er ceiniog y dydd, efe a’u hanfonodd hwy i’w winllan. Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa; Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i’r winllan; a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a’i rhoddaf i chwi. A hwy a aethant ymaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a’r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd. Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur? Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntau wrthynt, Ewch chwithau i’r winllan; a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a’i cewch. A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, Galw’r gweithwyr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechrau o’r rhai diwethaf hyd y rhai cyntaf. A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob un geiniog. A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog. Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ, Gan ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a’u gwnaethost hwynt yn gystal â ninnau, y rhai a ddygasom bwys y dydd, a’r gwres. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un ohonynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: onid er ceiniog y cytunaist â mi? Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i’r olaf hwn megis i tithau. Onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â’r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda?