Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 20:1-15

Mathew 20:1-15 BWM

Canys teyrnas nefoedd sydd debyg i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweithwyr i’w winllan. Ac wedi cytuno â’r gweithwyr er ceiniog y dydd, efe a’u hanfonodd hwy i’w winllan. Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa; Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i’r winllan; a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a’i rhoddaf i chwi. A hwy a aethant ymaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a’r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd. Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur? Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntau wrthynt, Ewch chwithau i’r winllan; a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a’i cewch. A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, Galw’r gweithwyr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechrau o’r rhai diwethaf hyd y rhai cyntaf. A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob un geiniog. A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog. Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ, Gan ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a’u gwnaethost hwynt yn gystal â ninnau, y rhai a ddygasom bwys y dydd, a’r gwres. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un ohonynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: onid er ceiniog y cytunaist â mi? Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i’r olaf hwn megis i tithau. Onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â’r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda?