Mathew 19:1-15
Mathew 19:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan orffennodd Iesu lefaru'r geiriau hyn, ymadawodd â Galilea a daeth i diriogaeth Jwdea y tu hwnt i'r Iorddonen. Dilynodd tyrfaoedd mawr ef, ac iachaodd hwy yno. Daeth Phariseaid ato i roi prawf arno gan ofyn, “A yw'n gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig am unrhyw reswm a fyn?” Atebodd yntau gan ofyn, “Onid ydych wedi darllen mai yn wryw a benyw y gwnaeth y Creawdwr hwy o'r dechreuad?” A dywedodd, “Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd. Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd. Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, ni ddylai neb ei wahanu.” Meddent hwy wrtho, “Pam felly y gorchmynnodd Moses roi llythyr ysgar iddi a'i hanfon ymaith?” Atebodd ef hwy, “Oherwydd eich ystyfnigrwydd y rhoddodd Moses ganiatâd ichwi i ysgaru eich gwragedd, ond nid felly yr oedd o'r dechreuad. Rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, ond am anffyddlondeb, ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu.” Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, “Os dyma'r sefyllfa rhwng dyn a'i wraig, y mae'n well peidio â phriodi.” Atebodd yntau, “Nid peth i bawb yw derbyn y gair hwn, dim ond i'r rhai a ddoniwyd felly. Y mae rhai eunuchiaid sydd felly o groth eu mam, rhai sydd wedi eu gwneud yn eunuchiaid gan eraill, a rhai eto sydd wedi eu gwneud eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Boed i'r sawl sy'n gallu derbyn hyn ei dderbyn.” Yna daethpwyd â phlant ato, iddo roi ei ddwylo arnynt a gweddïo. Ceryddodd y disgyblion hwy, ond dywedodd Iesu, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas nefoedd yn perthyn.” Ac wedi rhoi ei ddwylo arnynt, aeth oddi yno.
Mathew 19:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma i gyd, gadawodd Galilea a mynd i Jwdea a’r ardal yr ochr draw i’r Iorddonen. Cafodd ei ddilyn gan dyrfaoedd mawr, ac iachaodd eu cleifion. Dyma Phariseaid yn dod ato i geisio’i faglu drwy ofyn, “Ydy’r Gyfraith yn dweud ei bod yn iawn i ddyn ysgaru ei wraig am unrhyw reswm?” Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Duw ar y dechrau? – ‘Gwnaeth bobl yn wryw ac yn fenyw’ a dweud, ‘felly bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn cael ei uno â’i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.’ Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned. Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi’i uno.” Ond dyma nhw’n gofyn iddo, “Ond pam felly wnaeth Moses ddweud fod rhaid i ddyn roi tystysgrif ysgariad i’w wraig cyn ei hanfon i ffwrdd?” “Wyddoch chi pam wnaeth Moses ganiatáu i chi ysgaru eich gwragedd?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig! Ond dim felly oedd hi ar y dechrau. Wir i chi, mae unrhyw un sy’n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu, oni bai fod ei wraig wedi bod yn anffyddlon iddo.” Meddai’r disgyblion wrtho, “Mae’n well i ddyn beidio priodi o gwbl os mai fel yna mae hi!” Atebodd Iesu, “All pawb ddim derbyn y peth, ond mae Duw wedi rhoi’r gallu i rai. Mae rhai pobl wedi’u geni’n eunuchiaid, eraill wedi cael eu sbaddu a’u gwneud yn eunuchiaid, ac mae rhai’n dewis peidio priodi er mwyn gwasanaethu teyrnas yr Un nefol. Dylai’r rhai sydd â’r gallu i dderbyn hyn ei dderbyn.” Dyma bobl yn dod â’u plant bach at Iesu er mwyn iddo osod ei ddwylo arnyn nhw a gweddïo drostyn nhw. Ond roedd y disgyblion yn dweud y drefn wrthyn nhw. Ond meddai Iesu, “Gadewch i’r plant bach ddod ata i. Peidiwch â’u rhwystro, am mai rhai fel nhw sy’n derbyn teyrnasiad yr Un nefol.” Ar ôl iddo osod ei ddwylo arnyn nhw, aeth yn ei flaen oddi yno.
Mathew 19:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan orffennodd Iesu lefaru'r geiriau hyn, ymadawodd â Galilea a daeth i diriogaeth Jwdea y tu hwnt i'r Iorddonen. Dilynodd tyrfaoedd mawr ef, ac iachaodd hwy yno. Daeth Phariseaid ato i roi prawf arno gan ofyn, “A yw'n gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig am unrhyw reswm a fyn?” Atebodd yntau gan ofyn, “Onid ydych wedi darllen mai yn wryw a benyw y gwnaeth y Creawdwr hwy o'r dechreuad?” A dywedodd, “Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd. Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd. Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, ni ddylai neb ei wahanu.” Meddent hwy wrtho, “Pam felly y gorchmynnodd Moses roi llythyr ysgar iddi a'i hanfon ymaith?” Atebodd ef hwy, “Oherwydd eich ystyfnigrwydd y rhoddodd Moses ganiatâd ichwi i ysgaru eich gwragedd, ond nid felly yr oedd o'r dechreuad. Rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, ond am anffyddlondeb, ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu.” Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, “Os dyma'r sefyllfa rhwng dyn a'i wraig, y mae'n well peidio â phriodi.” Atebodd yntau, “Nid peth i bawb yw derbyn y gair hwn, dim ond i'r rhai a ddoniwyd felly. Y mae rhai eunuchiaid sydd felly o groth eu mam, rhai sydd wedi eu gwneud yn eunuchiaid gan eraill, a rhai eto sydd wedi eu gwneud eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Boed i'r sawl sy'n gallu derbyn hyn ei dderbyn.” Yna daethpwyd â phlant ato, iddo roi ei ddwylo arnynt a gweddïo. Ceryddodd y disgyblion hwy, ond dywedodd Iesu, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas nefoedd yn perthyn.” Ac wedi rhoi ei ddwylo arnynt, aeth oddi yno.
Mathew 19:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, pan orffennodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilea, ac a ddaeth i derfynau Jwdea, tu hwnt i’r Iorddonen: A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef; ac efe a’u hiachaodd hwynt yno. A daeth y Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai cyfreithlon i ŵr ysgar â’i wraig am bob achos? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, i’r hwn a’u gwnaeth o’r dechrau, eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw? Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gad dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a’r ddau fyddant yn un cnawd. Oherwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, nac ysgared dyn. Hwythau a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny y gorchmynnodd Moses roddi llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith? Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses, oherwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â’ch gwragedd: eithr o’r dechrau nid felly yr oedd. Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â’i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae’r hwn a briodo’r hon a ysgarwyd, yn torri priodas. Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, Os felly y mae’r achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt. Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid; ac y mae eunuchiaid a’u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied. Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylo arnynt, ac y gweddïai: a’r disgyblion a’u ceryddodd hwynt. A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd. Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno.