A bu, pan orffennodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilea, ac a ddaeth i derfynau Jwdea, tu hwnt i’r Iorddonen: A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef; ac efe a’u hiachaodd hwynt yno.
A daeth y Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai cyfreithlon i ŵr ysgar â’i wraig am bob achos? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, i’r hwn a’u gwnaeth o’r dechrau, eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw? Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gad dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a’r ddau fyddant yn un cnawd. Oherwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, nac ysgared dyn. Hwythau a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny y gorchmynnodd Moses roddi llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith? Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses, oherwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â’ch gwragedd: eithr o’r dechrau nid felly yr oedd. Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â’i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae’r hwn a briodo’r hon a ysgarwyd, yn torri priodas.
Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, Os felly y mae’r achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt. Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid; ac y mae eunuchiaid a’u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.
Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylo arnynt, ac y gweddïai: a’r disgyblion a’u ceryddodd hwynt. A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd. Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno.