Mathew 15:29-39
Mathew 15:29-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan adawodd Iesu’r ardal honno, teithiodd ar hyd glan Llyn Galilea. Yna aeth i ben mynydd ac eistedd i lawr. Daeth tyrfaoedd mawr o bobl ato, gyda phobl oedd yn gloff, yn ddall, yn anabl neu’n fud. Cawson nhw eu gosod o’i flaen, ac iachaodd nhw. Roedd y bobl wedi’u syfrdanu wrth weld y mud yn siarad, pobl anabl wedi cael eu hiacháu, y cloff yn cerdded a’r dall yn gweld. A dyma nhw’n dechrau moli Duw Israel. Dyma Iesu’n galw’i ddisgyblion ato a dweud, “Dw i’n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i’w fwyta. Dw i ddim am iddyn nhw fynd i ffwrdd yn llwgu, rhag iddyn nhw lewygu ar y ffordd.” Meddai’r disgyblion, “Ble gawn ni ddigon o fara i fwydo’r fath dyrfa mewn lle mor anial!” “Sawl torth o fara sydd gynnoch chi?” meddai Iesu. “Saith,” medden nhw, “a rhyw ychydig o bysgod bach.” Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr. Cymerodd y saith torth a’r pysgod, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a’u rhoi i’r disgyblion, a dyma’r disgyblion yn eu rhannu i’r bobl. Cafodd pawb ddigon i’w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben. Roedd pedair mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant! Ar ôl i Iesu anfon y dyrfa adre aeth i mewn i’r cwch a chroesi i ardal Magadan.
Mathew 15:29-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Symudodd Iesu oddi yno ac aeth gerllaw Môr Galilea, ac i fyny'r mynydd. Eisteddodd yno, a daeth tyrfaoedd mawr ato yn dwyn gyda hwy y cloff a'r dall, yr anafus a'r mud, a llawer eraill; gosodasant hwy wrth ei draed, ac iachaodd ef hwy, er syndod i'r dyrfa wrth weld y mud yn llefaru, yr anafus yn holliach, y cloff yn cerdded a'r dall yn gweld; a rhoesant ogoniant i Dduw Israel. Galwodd Iesu ei ddisgyblion ato, ac meddai, “Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oherwydd y maent wedi bod gyda mi dridiau erbyn hyn, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta. Ac ni fynnaf eu hanfon ymaith ar eu cythlwng, rhag iddynt lewygu ar y ffordd.” Dywedodd y disgyblion wrtho, “O ble, mewn lle anial, y cawn ddigon o fara i fwydo tyrfa mor fawr?” Gofynnodd Iesu iddynt, “Pa sawl torth sydd gennych?” “Saith,” meddent hwythau, “ac ychydig bysgod bychain.” Gorchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear. Yna cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac wedi diolch fe'u torrodd a'u rhoi i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd. Bwytasant oll a chael digon, a chodasant lond saith cawell o'r tameidiau oedd dros ben. Yr oedd y rhai oedd yn bwyta yn bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. Wedi gollwng y tyrfaoedd aeth Iesu i mewn i'r cwch a daeth i gyffiniau Magadan.
Mathew 15:29-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth gerllaw môr Galilea; ac a esgynnodd i’r mynydd, ac a eisteddodd yno. A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a’u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a’u hiachaodd hwynt: Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a’r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel. A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa; canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd. A’i ddisgyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymaint o fara yn y diffeithwch, fel y digonid tyrfa gymaint? A’r Iesu a ddywedai wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain. Ac efe a orchmynnodd i’r torfeydd eistedd ar y ddaear. A chan gymryd y saith dorth, a’r pysgod, a diolch, efe a’u torrodd, ac a’u rhoddodd i’w ddisgyblion, a’r disgyblion i’r dyrfa. A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon; ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill, saith fasgedaid yn llawn. A’r rhai a fwytasant oedd bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i long, ac a ddaeth i barthau Magdala.