Mathew 12:9-14
Mathew 12:9-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Aeth oddi yno a mynd i’w synagog nhw, ac roedd dyn yno oedd â’i law yn ddiffrwyth. Roedden nhw’n edrych am unrhyw esgus i gyhuddo Iesu, felly dyma nhw’n gofyn iddo, “Ydy’r Gyfraith yn dweud ei bod hi’n iawn i iacháu pobl ar y Saboth?” Atebodd nhw, “Petai dafad un ohonoch chi’n syrthio i ffos ar y Saboth, fyddech chi ddim yn mynd i’w chodi hi allan? Mae person yn llawer mwy gwerthfawr na dafad! Felly, ydy, mae’n iawn yn ôl y Gyfraith i wneud daioni ar y Saboth.” Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i’r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella’n llwyr, nes ei bod mor gryf â’r llaw arall. Ond dyma’r Phariseaid yn mynd allan i drafod sut allen nhw ladd Iesu.
Mathew 12:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Symudodd oddi yno a daeth i'w synagog hwy. Yno yr oedd dyn a chanddo law ddiffrwyth. Gofynasant i Iesu, er mwyn cael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn, “A yw'n gyfreithlon iacháu ar y Saboth?” Dywedodd yntau wrthynt, “Pwy ohonoch a chanddo un ddafad, os syrth honno i bydew ar y Saboth, na fydd yn gafael ynddi a'i chodi? Gymaint mwy gwerthfawr yw dyn na dafad. Am hynny y mae'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth.” Yna dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn holliach fel y llall. Ac fe aeth y Phariseaid allan a chynllwyn yn ei erbyn, sut i'w ladd.
Mathew 12:9-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i’w synagog hwynt. Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai rhydd iacháu ar y Sabothau? fel y gallent achwyn arno. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn ohonoch fydd a chanddo un ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Saboth, nid ymeifl ynddi, a’i chodi allan? Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad? Felly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabothau. Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a’i hestynnodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall. Yna yr aeth y Phariseaid allan, ac a ymgyngorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.