Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 12

12
Tynnu Tywysennau ar y Saboth
Mc. 2:23–28; Lc. 6:1–5
1Yr amser hwnnw aeth Iesu drwy'r caeau ŷd ar y Saboth; yr oedd eisiau bwyd ar ei ddisgyblion, a dechreusant dynnu tywysennau a'u bwyta. 2Pan welodd y Phariseaid hynny, meddent wrtho, “Edrych, y mae dy ddisgyblion yn gwneud peth sy'n groes i'r Gyfraith ar y Saboth.” 3Dywedodd yntau wrthynt, “Onid ydych wedi darllen beth a wnaeth Dafydd, pan oedd eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef? 4Sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw a sut y bwytasant y torthau cysegredig, nad oedd yn gyfreithlon iddo ef na'r rhai oedd gydag ef eu bwyta, ond i'r offeiriaid yn unig? 5Neu onid ydych wedi darllen yn y Gyfraith fod yr offeiriaid ar y Saboth yn y deml yn halogi'r Saboth ond eu bod yn ddieuog? 6Rwy'n dweud wrthych fod rhywbeth mwy na'r deml yma. 7Pe buasech wedi deall beth yw ystyr y dywediad, ‘Trugaredd a ddymunaf, nid aberth’, ni fuasech wedi condemnio'r dieuog. 8Oherwydd y mae Mab y Dyn yn arglwydd ar y Saboth.”
Y Dyn â'r Llaw Ddiffrwyth
Mc. 3:1–6; Lc. 6:6–11
9Symudodd oddi yno a daeth i'w synagog hwy. 10Yno yr oedd dyn a chanddo law ddiffrwyth. Gofynasant i Iesu, er mwyn cael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn, “A yw'n gyfreithlon iacháu ar y Saboth?” 11Dywedodd yntau wrthynt, “Pwy ohonoch a chanddo un ddafad, os syrth honno i bydew ar y Saboth, na fydd yn gafael ynddi a'i chodi? 12Gymaint mwy gwerthfawr yw dyn na dafad. Am hynny y mae'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth.” 13Yna dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn holliach fel y llall. 14Ac fe aeth y Phariseaid allan a chynllwyn yn ei erbyn, sut i'w ladd.
Y Gwas Dewisedig
15Ond daeth Iesu i wybod hyn, ac aeth ymaith oddi yno. Dilynodd llawer ef, ac fe iachaodd bawb ohonynt, 16a rhybuddiodd hwy i beidio â'i wneud yn hysbys, 17fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd:
18“Dyma fy ngwas, yr un a ddewisais,
fy anwylyd, yr ymhyfrydodd fy enaid ynddo.
Rhoddaf fy Ysbryd arno,
a bydd yn cyhoeddi barn i'r Cenhedloedd.
19Ni fydd yn ymrafael nac yn gweiddi,
ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.
20Ni fydd yn mathru corsen doredig,
nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu,
nes iddo ddwyn barn i fuddugoliaeth.
21Ac yn ei enw ef y bydd gobaith y Cenhedloedd.”
Iesu a Beelsebwl
Mc. 3:20–30; Lc. 11:14–23; 12:10
22Yna dygwyd ato ddyn â chythraul ynddo, yn ddall a mud; iachaodd Iesu ef, nes bod y mudan yn llefaru ac yn gweld. 23A synnodd yr holl dyrfaoedd a dweud, “A yw'n bosibl mai hwn yw Mab Dafydd?” 24Ond pan glywodd y Phariseaid dywedasant, “Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid ond trwy Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid.” 25Deallodd Iesu eu meddyliau a dywedodd wrthynt, “Caiff pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei difrodi, ac ni bydd yr un dref na thŷ a ymrannodd yn ei erbyn ei hun yn sefyll. 26Ac os yw Satan yn bwrw allan Satan, y mae wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun; sut felly y saif ei deyrnas? 27Ac os trwy Beelsebwl yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich disgyblion chwi yn eu bwrw allan? Am hynny hwy fydd yn eich barnu. 28Ond os trwy Ysbryd Duw yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, yna y mae teyrnas Dduw wedi cyrraedd atoch. 29Neu sut y gall rhywun fynd i mewn i dŷ un cryf ac ysbeilio'i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo'r un cryf? Wedyn caiff ysbeilio'i dŷ ef. 30Os nad yw rhywun gyda mi, yn fy erbyn i y mae, ac os nad yw'n casglu gyda mi, gwasgaru y mae. 31Am hynny rwy'n dweud wrthych, maddeuir pob pechod a chabledd i bobl, ond y cabledd yn erbyn yr Ysbryd ni faddeuir mohono. 32Caiff pwy bynnag a ddywed air yn erbyn Mab y Dyn, faddeuant; ond pwy bynnag a'i dywed yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant nac yn yr oes hon nac yn yr oes sydd i ddod.
Coeden a'i Ffrwyth
Lc. 6:43–45
33“Naill ai cyfrifwch y goeden yn dda a'i ffrwyth yn dda, neu cyfrifwch y goeden yn wael a'i ffrwyth yn wael. Wrth ei ffrwyth y mae'r goeden yn cael ei hadnabod. 34Chwi epil gwiberod, sut y gallwch lefaru pethau da, a chwi eich hunain yn ddrwg? Oherwydd yn ôl yr hyn sy'n llenwi'r galon y mae'r genau'n llefaru. 35Y mae'r dyn da o'i drysor da yn dwyn allan bethau da, a'r dyn drwg o'i drysor drwg yn dwyn allan bethau drwg. 36Rwy'n dweud wrthych am bob gair di-fudd a lefara pobl, fe roddant gyfrif amdano yn Nydd y Farn. 37Oherwydd wrth dy eiriau y cei dy gyfiawnhau, ac wrth dy eiriau y cei dy gondemnio.”
Ceisio Arwydd
Mc. 8:11–12; Lc. 11:29–32
38Yna dywedodd rhai o'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid wrtho, “Athro, fe garem weld arwydd gennyt.” 39Atebodd yntau, “Cenhedlaeth ddrygionus ac annuwiol sy'n ceisio arwydd, eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd y proffwyd Jona. 40Oherwydd fel y bu Jona ym mol y morfil am dri diwrnod a thair nos, felly y bydd Mab y Dyn yn nyfnder y ddaear am dri diwrnod a thair nos. 41Bydd pobl Ninefe yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio hi; oherwydd edifarhasant hwy dan genadwri Jona, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Jona. 42Bydd Brenhines y De yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio; oherwydd daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Solomon.
Yr Ysbryd Aflan yn Dychwelyd
Lc. 11:24–26
43“Pan fydd ysbryd aflan yn mynd allan o rywun, bydd yn rhodio trwy fannau sychion gan geisio gorffwysfa, ac nid yw yn ei gael. 44Yna y mae'n dweud, ‘Mi ddychwelaf i'm cartref, y lle y deuthum ohono.’ Wedi cyrraedd, y mae'n ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i osod mewn trefn. 45Yna y mae'n mynd ac yn cymryd gydag ef saith ysbryd arall mwy drygionus nag ef ei hun; y maent yn dod i mewn ac yn ymgartrefu yno; ac y mae cyflwr olaf y dyn hwnnw yn waeth na'r cyntaf. Felly hefyd y bydd i'r genhedlaeth ddrwg hon.”
Mam a Brodyr Iesu
Mc. 3:31–35; Lc. 8:19–21
46Tra oedd ef yn dal i siarad â'r tyrfaoedd, yr oedd ei fam a'i frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad ag ef. 47Dywedodd rhywun wrtho, “Dacw dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad â thi.”#12:47 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan adn. 47. 48Atebodd Iesu ef, “Pwy yw fy mam, a phwy yw fy mrodyr?” 49A chan estyn ei law at ei ddisgyblion dywedodd, “Dyma fy mam a'm brodyr i. 50Oherwydd pwy bynnag sy'n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd, y mae hwnnw'n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.”

Dewis Presennol:

Mathew 12: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd