Mathew 12:43-45
Mathew 12:43-45 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae’n mynd i grwydro lleoedd anial yn chwilio am le i orffwys. Ond pan mae’n methu dod o hyd i rywle, mae’n meddwl, ‘Af i yn ôl i lle roeddwn i’n byw.’ Mae’n cyrraedd ac yn darganfod y tŷ yn wag ac wedi’i lanhau a’i dacluso drwyddo. Wedyn mae’n mynd â saith ysbryd gwaeth na’i hun i fyw gydag e. Mae’r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau! Fel yna fydd hi ar y genhedlaeth ddrwg yma.”
Mathew 12:43-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Pan fydd ysbryd aflan yn mynd allan o rywun, bydd yn rhodio trwy fannau sychion gan geisio gorffwysfa, ac nid yw yn ei gael. Yna y mae'n dweud, ‘Mi ddychwelaf i'm cartref, y lle y deuthum ohono.’ Wedi cyrraedd, y mae'n ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i osod mewn trefn. Yna y mae'n mynd ac yn cymryd gydag ef saith ysbryd arall mwy drygionus nag ef ei hun; y maent yn dod i mewn ac yn ymgartrefu yno; ac y mae cyflwr olaf y dyn hwnnw yn waeth na'r cyntaf. Felly hefyd y bydd i'r genhedlaeth ddrwg hon.”
Mathew 12:43-45 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia ar hyd lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra, ac nid yw yn ei gael. Yna medd efe, Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a’i drwsio. Yna y mae efe yn myned, ac yn cymryd gydag ef ei hun saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanheddant yno: ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon.