Mathew 12:35-36
Mathew 12:35-36 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae pobl dda yn rhannu’r daioni sydd wedi’i storio o’u mewn, a phobl ddrwg yn rhannu’r drygioni sydd wedi’i storio ynddyn nhw. Ar ddydd y farn, bydd rhaid i bobl roi cyfri am bob peth byrbwyll ddwedon nhw.
Mathew 12:35-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'r dyn da o'i drysor da yn dwyn allan bethau da, a'r dyn drwg o'i drysor drwg yn dwyn allan bethau drwg. Rwy'n dweud wrthych am bob gair di-fudd a lefara pobl, fe roddant gyfrif amdano yn Nydd y Farn.
Mathew 12:35-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y dyn da, o drysor da’r galon, a ddwg allan bethau da: a’r dyn drwg, o’r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg. Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn.