Mathew 12:34-35
Mathew 12:34-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dych chi fel nythaid o nadroedd! Sut allwch chi sy’n ddrwg ddweud unrhyw beth da? Mae’r hyn mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sy’n eu calonnau nhw. Mae pobl dda yn rhannu’r daioni sydd wedi’i storio o’u mewn, a phobl ddrwg yn rhannu’r drygioni sydd wedi’i storio ynddyn nhw.
Mathew 12:34-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Chwi epil gwiberod, sut y gallwch lefaru pethau da, a chwi eich hunain yn ddrwg? Oherwydd yn ôl yr hyn sy'n llenwi'r galon y mae'r genau'n llefaru. Y mae'r dyn da o'i drysor da yn dwyn allan bethau da, a'r dyn drwg o'i drysor drwg yn dwyn allan bethau drwg.
Mathew 12:34-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O epil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? canys o helaethrwydd y galon y llefara’r genau. Y dyn da, o drysor da’r galon, a ddwg allan bethau da: a’r dyn drwg, o’r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg.