Mathew 12:24-28
Mathew 12:24-28 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ond pan glywodd y Phariseaid am y peth, dyma nhw’n dweud, “Beelsebwl (y diafol ei hun), tywysog y cythreuliaid, sy’n rhoi’r gallu iddo wneud hyn.” Roedd Iesu’n gwybod yn iawn beth oedd yn mynd drwy’u meddyliau, ac meddai wrthyn nhw, “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd dinas neu deulu sy’n ymladd â’i gilydd o hyd yn syrthio hefyd. Os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun, a’i deyrnas wedi’i rhannu, sut mae’n bosib i’w deyrnas sefyll? Os mai Beelsebwl sy’n rhoi’r gallu i mi, pwy sy’n rhoi’r gallu i’ch dilynwyr chi? Byddan nhw’n eich barnu chi. Ond os mai Ysbryd Duw sy’n rhoi’r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid, yna mae Duw wedi dod i deyrnasu.
Mathew 12:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond pan glywodd y Phariseaid dywedasant, “Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid ond trwy Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid.” Deallodd Iesu eu meddyliau a dywedodd wrthynt, “Caiff pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei difrodi, ac ni bydd yr un dref na thŷ a ymrannodd yn ei erbyn ei hun yn sefyll. Ac os yw Satan yn bwrw allan Satan, y mae wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun; sut felly y saif ei deyrnas? Ac os trwy Beelsebwl yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich disgyblion chwi yn eu bwrw allan? Am hynny hwy fydd yn eich barnu. Ond os trwy Ysbryd Duw yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, yna y mae teyrnas Dduw wedi cyrraedd atoch.
Mathew 12:24-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr pan glybu’r Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid, ond trwy Beelsebub pennaeth y cythreuliaid. A’r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif. Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef? Ac os trwy Beelsebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi. Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw atoch.