Mathew 12:22-37
Mathew 12:22-37 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma nhw’n dod â dyn at Iesu oedd yn ddall ac yn methu siarad am ei fod yng ngafael cythraul. Dyma Iesu’n ei iacháu, ac roedd yn gallu siarad a gweld wedyn. Roedd y bobl i gyd yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Tybed ai hwn ydy Mab Dafydd?” Ond pan glywodd y Phariseaid am y peth, dyma nhw’n dweud, “Beelsebwl (y diafol ei hun), tywysog y cythreuliaid, sy’n rhoi’r gallu iddo wneud hyn.” Roedd Iesu’n gwybod yn iawn beth oedd yn mynd drwy’u meddyliau, ac meddai wrthyn nhw, “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd dinas neu deulu sy’n ymladd â’i gilydd o hyd yn syrthio hefyd. Os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun, a’i deyrnas wedi’i rhannu, sut mae’n bosib i’w deyrnas sefyll? Os mai Beelsebwl sy’n rhoi’r gallu i mi, pwy sy’n rhoi’r gallu i’ch dilynwyr chi? Byddan nhw’n eich barnu chi. Ond os mai Ysbryd Duw sy’n rhoi’r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid, yna mae Duw wedi dod i deyrnasu. “Neu sut all rhywun fynd i mewn i gartre’r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo’r dyn cryf yn gyntaf? Bydd yn gallu dwyn popeth o’i dŷ wedyn. “Os ydy rhywun ddim ar fy ochr i, mae yn fy erbyn i. Ac os ydy rhywun ddim yn gweithio gyda mi, mae’n gweithio yn fy erbyn i. Felly gwrandwch – mae maddeuant i’w gael am bob pechod a chabledd, ond does dim maddeuant i’r rhai sy’n cablu yn erbyn yr Ysbryd. Bydd rhywun sydd wedi dweud rhywbeth yn fy erbyn i, Mab y Dyn, yn cael maddeuant, ond does dim maddeuant i bwy bynnag sy’n dweud rhywbeth yn erbyn yr Ysbryd Glân, yn yr oes yma nac yn yr oes i ddod. “Dewiswch y naill neu’r llall – fod y goeden yn iach a’i ffrwyth yn dda, neu fod y goeden yn ddrwg a’i ffrwyth yn ddrwg. Y ffrwyth sy’n dangos sut goeden ydy hi. Dych chi fel nythaid o nadroedd! Sut allwch chi sy’n ddrwg ddweud unrhyw beth da? Mae’r hyn mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sy’n eu calonnau nhw. Mae pobl dda yn rhannu’r daioni sydd wedi’i storio o’u mewn, a phobl ddrwg yn rhannu’r drygioni sydd wedi’i storio ynddyn nhw. Ar ddydd y farn, bydd rhaid i bobl roi cyfri am bob peth byrbwyll ddwedon nhw. Cei dy ddyfarnu’n euog neu’n ddieuog ar sail beth ddwedaist ti.”
Mathew 12:22-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dygwyd ato ddyn â chythraul ynddo, yn ddall a mud; iachaodd Iesu ef, nes bod y mudan yn llefaru ac yn gweld. A synnodd yr holl dyrfaoedd a dweud, “A yw'n bosibl mai hwn yw Mab Dafydd?” Ond pan glywodd y Phariseaid dywedasant, “Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid ond trwy Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid.” Deallodd Iesu eu meddyliau a dywedodd wrthynt, “Caiff pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei difrodi, ac ni bydd yr un dref na thŷ a ymrannodd yn ei erbyn ei hun yn sefyll. Ac os yw Satan yn bwrw allan Satan, y mae wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun; sut felly y saif ei deyrnas? Ac os trwy Beelsebwl yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich disgyblion chwi yn eu bwrw allan? Am hynny hwy fydd yn eich barnu. Ond os trwy Ysbryd Duw yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, yna y mae teyrnas Dduw wedi cyrraedd atoch. Neu sut y gall rhywun fynd i mewn i dŷ un cryf ac ysbeilio'i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo'r un cryf? Wedyn caiff ysbeilio'i dŷ ef. Os nad yw rhywun gyda mi, yn fy erbyn i y mae, ac os nad yw'n casglu gyda mi, gwasgaru y mae. Am hynny rwy'n dweud wrthych, maddeuir pob pechod a chabledd i bobl, ond y cabledd yn erbyn yr Ysbryd ni faddeuir mohono. Caiff pwy bynnag a ddywed air yn erbyn Mab y Dyn, faddeuant; ond pwy bynnag a'i dywed yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant nac yn yr oes hon nac yn yr oes sydd i ddod. “Naill ai cyfrifwch y goeden yn dda a'i ffrwyth yn dda, neu cyfrifwch y goeden yn wael a'i ffrwyth yn wael. Wrth ei ffrwyth y mae'r goeden yn cael ei hadnabod. Chwi epil gwiberod, sut y gallwch lefaru pethau da, a chwi eich hunain yn ddrwg? Oherwydd yn ôl yr hyn sy'n llenwi'r galon y mae'r genau'n llefaru. Y mae'r dyn da o'i drysor da yn dwyn allan bethau da, a'r dyn drwg o'i drysor drwg yn dwyn allan bethau drwg. Rwy'n dweud wrthych am bob gair di-fudd a lefara pobl, fe roddant gyfrif amdano yn Nydd y Farn. Oherwydd wrth dy eiriau y cei dy gyfiawnhau, ac wrth dy eiriau y cei dy gondemnio.”
Mathew 12:22-37 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y ducpwyd ato un cythreulig, dall, a mud: ac efe a’i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud. A’r holl dorfeydd a synasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw mab Dafydd? Eithr pan glybu’r Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid, ond trwy Beelsebub pennaeth y cythreuliaid. A’r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif. Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef? Ac os trwy Beelsebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi. Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw atoch. Neu, pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn, a llwyr ysbeilio ei ddodrefn ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn? ac yna yr ysbeilia efe ei dŷ ef. Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn; a’r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru. Am hynny y dywedaf wrthych chwi, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân ni faddeuir i ddynion. A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw. Naill ai gwnewch y pren yn dda, a’i ffrwyth yn dda; ai gwnewch y pren yn ddrwg, a’i ffrwyth yn ddrwg: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth. O epil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? canys o helaethrwydd y galon y llefara’r genau. Y dyn da, o drysor da’r galon, a ddwg allan bethau da: a’r dyn drwg, o’r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg. Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn. Canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y’th gondemnir.