Mathew 12:15-21
Mathew 12:15-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Iesu’n gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd, ac aeth i ffwrdd oddi yno. Roedd llawer o bobl yn ei ddilyn, ac iachaodd bob un ohonyn nhw oedd yn glaf, ond roedd yn eu rhybuddio i beidio dweud pwy oedd e. Dyma sut daeth yr hyn ddwedodd Duw drwy’r proffwyd Eseia yn wir: “Dyma’r un dw i wedi’i ddewis yn was i mi, yr un dw i’n ei garu, ac mor falch ohono; Rhof fy Ysbryd Glân iddo, a bydd yn cyhoeddi cyfiawnder i’r cenhedloedd. Fydd e ddim yn cweryla nac yn gweiddi i dynnu sylw ato’i hun, a fydd neb yn clywed ei lais ar y strydoedd; Fydd e ddim yn torri brwynen wan, nac yn diffodd cannwyll sy’n mygu. Bydd e’n arwain cyfiawnder i fod yn fuddugol. Bydd pobl o’r holl genhedloedd yn rhoi eu gobaith ynddo.”
Mathew 12:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond daeth Iesu i wybod hyn, ac aeth ymaith oddi yno. Dilynodd llawer ef, ac fe iachaodd bawb ohonynt, a rhybuddiodd hwy i beidio â'i wneud yn hysbys, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd: “Dyma fy ngwas, yr un a ddewisais, fy anwylyd, yr ymhyfrydodd fy enaid ynddo. Rhoddaf fy Ysbryd arno, a bydd yn cyhoeddi barn i'r Cenhedloedd. Ni fydd yn ymrafael nac yn gweiddi, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd. Ni fydd yn mathru corsen doredig, nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu, nes iddo ddwyn barn i fuddugoliaeth. Ac yn ei enw ef y bydd gobaith y Cenhedloedd.”
Mathew 12:15-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu gan wybod, a giliodd oddi yno; a thorfeydd lawer a’i canlynasant ef, ac efe a’u hiachaodd hwynt oll; Ac a orchmynnodd iddynt, na wnaent ef yn gyhoedd: Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon: gosodaf fy ysbryd arno, ac efe a draetha farn i’r Cenhedloedd. Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd. Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth. Ac yn ei enw ef y gobeithia’r Cenhedloedd.