Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 12:1-15

Mathew 12:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Bryd hynny aeth Iesu drwy ganol caeau ŷd ar y dydd Saboth. Roedd ei ddisgyblion eisiau bwyd, a dyma nhw’n dechrau tynnu rhai o’r tywysennau ŷd a’u bwyta. Wrth weld hyn dyma’r Phariseaid yn dweud wrtho, “Edrych! Mae dy ddisgyblion yn torri rheolau’r Gyfraith ar y Saboth!” Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a’i griw o ddilynwyr yn llwgu? Aeth i mewn i dŷ Dduw, a bwyta’r bara oedd wedi’i gysegru a’i osod yn offrwm i Dduw. Mae’r Gyfraith yn dweud fod ganddo fe a’i ddilynwyr ddim hawl i’w fwyta; dim ond yr offeiriaid oedd â hawl. Neu ydych chi ddim wedi darllen beth mae’r Gyfraith yn ei ddweud am y Saboth? Mae’r offeiriaid yn torri rheolau’r Saboth drwy weithio yn y deml! Ac eto maen nhw’n cael eu cyfri’n ddieuog. Gwrandwch – mae rhywbeth mwy na’r deml yma! Petaech chi wedi deall ystyr y gosodiad, ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau,’ fyddech chi ddim yn condemnio’r dieuog. Mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy’n iawn ar y Saboth.” Aeth oddi yno a mynd i’w synagog nhw, ac roedd dyn yno oedd â’i law yn ddiffrwyth. Roedden nhw’n edrych am unrhyw esgus i gyhuddo Iesu, felly dyma nhw’n gofyn iddo, “Ydy’r Gyfraith yn dweud ei bod hi’n iawn i iacháu pobl ar y Saboth?” Atebodd nhw, “Petai dafad un ohonoch chi’n syrthio i ffos ar y Saboth, fyddech chi ddim yn mynd i’w chodi hi allan? Mae person yn llawer mwy gwerthfawr na dafad! Felly, ydy, mae’n iawn yn ôl y Gyfraith i wneud daioni ar y Saboth.” Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i’r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella’n llwyr, nes ei bod mor gryf â’r llaw arall. Ond dyma’r Phariseaid yn mynd allan i drafod sut allen nhw ladd Iesu. Roedd Iesu’n gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd, ac aeth i ffwrdd oddi yno. Roedd llawer o bobl yn ei ddilyn, ac iachaodd bob un ohonyn nhw oedd yn glaf

Mathew 12:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr amser hwnnw aeth Iesu drwy'r caeau ŷd ar y Saboth; yr oedd eisiau bwyd ar ei ddisgyblion, a dechreusant dynnu tywysennau a'u bwyta. Pan welodd y Phariseaid hynny, meddent wrtho, “Edrych, y mae dy ddisgyblion yn gwneud peth sy'n groes i'r Gyfraith ar y Saboth.” Dywedodd yntau wrthynt, “Onid ydych wedi darllen beth a wnaeth Dafydd, pan oedd eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef? Sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw a sut y bwytasant y torthau cysegredig, nad oedd yn gyfreithlon iddo ef na'r rhai oedd gydag ef eu bwyta, ond i'r offeiriaid yn unig? Neu onid ydych wedi darllen yn y Gyfraith fod yr offeiriaid ar y Saboth yn y deml yn halogi'r Saboth ond eu bod yn ddieuog? Rwy'n dweud wrthych fod rhywbeth mwy na'r deml yma. Pe buasech wedi deall beth yw ystyr y dywediad, ‘Trugaredd a ddymunaf, nid aberth’, ni fuasech wedi condemnio'r dieuog. Oherwydd y mae Mab y Dyn yn arglwydd ar y Saboth.” Symudodd oddi yno a daeth i'w synagog hwy. Yno yr oedd dyn a chanddo law ddiffrwyth. Gofynasant i Iesu, er mwyn cael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn, “A yw'n gyfreithlon iacháu ar y Saboth?” Dywedodd yntau wrthynt, “Pwy ohonoch a chanddo un ddafad, os syrth honno i bydew ar y Saboth, na fydd yn gafael ynddi a'i chodi? Gymaint mwy gwerthfawr yw dyn na dafad. Am hynny y mae'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth.” Yna dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn holliach fel y llall. Ac fe aeth y Phariseaid allan a chynllwyn yn ei erbyn, sut i'w ladd. Ond daeth Iesu i wybod hyn, ac aeth ymaith oddi yno. Dilynodd llawer ef, ac fe iachaodd bawb ohonynt

Mathew 12:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yr amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd Saboth trwy’r ŷd: ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwyta. A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Saboth. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gydag ef? Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwytaodd y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwyta, nac i’r rhai oedd gydag ef, ond yn unig i’r offeiriaid? Neu oni ddarllenasoch yn y gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabothau yn y deml yn halogi’r Saboth, a’u bod yn ddigerydd? Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod yma un mwy na’r deml. Ond pe gwybuasech beth yw hyn, Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed. Canys Arglwydd ar y Saboth hefyd yw Mab y dyn. Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i’w synagog hwynt. Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai rhydd iacháu ar y Sabothau? fel y gallent achwyn arno. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn ohonoch fydd a chanddo un ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Saboth, nid ymeifl ynddi, a’i chodi allan? Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad? Felly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabothau. Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a’i hestynnodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall. Yna yr aeth y Phariseaid allan, ac a ymgyngorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef. A’r Iesu gan wybod, a giliodd oddi yno; a thorfeydd lawer a’i canlynasant ef, ac efe a’u hiachaodd hwynt oll