Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 10:30-42

Mathew 10:30-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Amdanoch chwi, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi'n werth mwy na llawer o adar y to. “Pwy bynnag fydd yn fy arddel i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu harddel hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Ond pwy bynnag fydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu gwadu hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. “Peidiwch â meddwl mai i ddwyn heddwch i'r ddaear y deuthum; nid i ddwyn heddwch y deuthum ond cleddyf. Oherwydd deuthum i rannu “ ‘dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a merch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith; a gelynion rhywun fydd ei deulu ei hun’. “Nid yw'r sawl sy'n caru tad neu fam yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi; ac nid yw'r sawl sy'n caru mab neu ferch yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi. A'r sawl nad yw'n cymryd ei groes ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw'n deilwng ohonof fi. Yr un sy'n ennill ei fywyd a'i cyll, a'r un sy'n colli ei fywyd er fy mwyn i a'i hennill. “Y mae'r sawl sy'n eich derbyn chwi yn fy nerbyn i, a'r sawl sy'n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i. Pwy bynnag sy'n derbyn proffwyd am ei fod yn broffwyd, fe gaiff wobr proffwyd, a phwy bynnag sy'n derbyn un cyfiawn am ei fod yn un cyfiawn, fe gaiff wobr un cyfiawn. A phwy bynnag a rydd gymaint â chwpanaid o ddŵr oer i un o'r rhai bychain hyn am ei fod yn ddisgybl, yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr.”

Mathew 10:30-42 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi! Felly peidiwch bod ofn dim byd; dych chi’n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to! “Pwy bynnag sy’n dweud yn agored o flaen pobl eraill ei fod yn credu ynof fi, bydda innau’n dweud yn agored o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw’n perthyn i mi. Ond pwy bynnag sy’n gwadu ei fod yn credu ynof fi o flaen pobl eraill, bydda innau’n gwadu o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw’n perthyn i mi. “Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod â heddwch i’r byd! Dw i ddim yn dod â heddwch, ond cleddyf. Dw i wedi dod i droi ‘mab yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam; merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith – bydd eich teulu agosaf yn troi’n elynion i chi.’ “Dydy’r sawl sy’n caru ei dad a’i fam yn fwy na fi ddim yn haeddu perthyn i mi; a dydy’r sawl sy’n caru mab neu ferch yn fwy na fi ddim yn haeddu perthyn i mi; Dydy’r sawl sydd ddim yn codi ei groes, a cherdded yr un llwybr o hunanaberth â mi, ddim yn haeddu perthyn i mi. Bydd y sawl sy’n ceisio amddiffyn ei fywyd yn colli’r bywyd go iawn, ond y sawl sy’n barod i ollwng gafael ar ei fywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn iddo’i hun. “Mae pwy bynnag sy’n rhoi croeso i chi yn rhoi croeso i mi, a phwy bynnag sy’n rhoi croeso i mi yn rhoi croeso i Dduw, yr un sydd wedi f’anfon i. Bydd pwy bynnag sy’n rhoi croeso i broffwyd am ei fod yn cyhoeddi neges Duw yn derbyn yr un wobr â’r proffwyd, a phwy bynnag sy’n rhoi croeso i un cyfiawn am ei fod yn gwneud beth sy’n iawn yng ngolwg Duw yn derbyn yr un wobr â’r un cyfiawn. Does ond rhaid i rywun roi diod o ddŵr oer i un o’r rhai bach yma sy’n ddilynwyr i mi, a chredwch chi fi, bydd y person yna’n siŵr o gael ei wobr.”