Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 10:30-42

Mathew 10:30-42 BNET

Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi! Felly peidiwch bod ofn dim byd; dych chi’n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to! “Pwy bynnag sy’n dweud yn agored o flaen pobl eraill ei fod yn credu ynof fi, bydda innau’n dweud yn agored o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw’n perthyn i mi. Ond pwy bynnag sy’n gwadu ei fod yn credu ynof fi o flaen pobl eraill, bydda innau’n gwadu o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw’n perthyn i mi. “Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod â heddwch i’r byd! Dw i ddim yn dod â heddwch, ond cleddyf. Dw i wedi dod i droi ‘mab yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam; merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith – bydd eich teulu agosaf yn troi’n elynion i chi.’ “Dydy’r sawl sy’n caru ei dad a’i fam yn fwy na fi ddim yn haeddu perthyn i mi; a dydy’r sawl sy’n caru mab neu ferch yn fwy na fi ddim yn haeddu perthyn i mi; Dydy’r sawl sydd ddim yn codi ei groes, a cherdded yr un llwybr o hunanaberth â mi, ddim yn haeddu perthyn i mi. Bydd y sawl sy’n ceisio amddiffyn ei fywyd yn colli’r bywyd go iawn, ond y sawl sy’n barod i ollwng gafael ar ei fywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn iddo’i hun. “Mae pwy bynnag sy’n rhoi croeso i chi yn rhoi croeso i mi, a phwy bynnag sy’n rhoi croeso i mi yn rhoi croeso i Dduw, yr un sydd wedi f’anfon i. Bydd pwy bynnag sy’n rhoi croeso i broffwyd am ei fod yn cyhoeddi neges Duw yn derbyn yr un wobr â’r proffwyd, a phwy bynnag sy’n rhoi croeso i un cyfiawn am ei fod yn gwneud beth sy’n iawn yng ngolwg Duw yn derbyn yr un wobr â’r un cyfiawn. Does ond rhaid i rywun roi diod o ddŵr oer i un o’r rhai bach yma sy’n ddilynwyr i mi, a chredwch chi fi, bydd y person yna’n siŵr o gael ei wobr.”

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Mathew 10:30-42