Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 10:16-42

Mathew 10:16-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

“Dyma fi yn eich anfon allan fel defaid i blith bleiddiaid; felly byddwch yn gall fel seirff ac yn ddiniwed fel colomennod. Gochelwch rhag pobl; oherwydd fe'ch traddodant chwi i lysoedd, ac fe'ch fflangellant yn eu synagogau. Cewch eich dwyn o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd o'm hachos i, i ddwyn tystiolaeth iddynt ac i'r Cenhedloedd. Pan draddodant chwi, peidiwch â phryderu pa fodd na pha beth i lefaru, oherwydd fe roddir i chwi y pryd hwnnw eiriau i'w llefaru. Nid chwi sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad sy'n llefaru ynoch chwi. Bradycha brawd ei frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a chyfyd plant yn erbyn eu rhieni a pheri eu lladd. A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i; ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub. Pan erlidiant chwi mewn un dref, ffowch i un arall. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni fyddwch wedi cwblhau trefi Israel cyn dyfod Mab y Dyn. “Nid yw disgybl yn well na'i athro na gwas yn well na'i feistr. Digon i'r disgybl yw bod fel ei athro, a'r gwas fel ei feistr. Os galwasant feistr y tŷ yn Beelsebwl, pa faint mwy ei deulu? “Peidiwch â'u hofni hwy. Oherwydd nid oes dim wedi ei guddio na ddatguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod. Yr hyn a ddywedaf wrthych yn y tywyllwch, dywedwch ef yng ngolau dydd; a'r hyn a sibrydir i'ch clust, cyhoeddwch ef ar bennau'r tai. A pheidiwch ag ofni'r rhai sy'n lladd y corff, ond na allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn sy'n gallu dinistrio'r enaid a'r corff yn uffern. Oni werthir dau aderyn y to am geiniog? Eto nid oes un ohonynt yn syrthio i'r ddaear heb eich Tad. Amdanoch chwi, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi'n werth mwy na llawer o adar y to. “Pwy bynnag fydd yn fy arddel i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu harddel hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Ond pwy bynnag fydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu gwadu hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. “Peidiwch â meddwl mai i ddwyn heddwch i'r ddaear y deuthum; nid i ddwyn heddwch y deuthum ond cleddyf. Oherwydd deuthum i rannu “ ‘dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a merch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith; a gelynion rhywun fydd ei deulu ei hun’. “Nid yw'r sawl sy'n caru tad neu fam yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi; ac nid yw'r sawl sy'n caru mab neu ferch yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi. A'r sawl nad yw'n cymryd ei groes ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw'n deilwng ohonof fi. Yr un sy'n ennill ei fywyd a'i cyll, a'r un sy'n colli ei fywyd er fy mwyn i a'i hennill. “Y mae'r sawl sy'n eich derbyn chwi yn fy nerbyn i, a'r sawl sy'n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i. Pwy bynnag sy'n derbyn proffwyd am ei fod yn broffwyd, fe gaiff wobr proffwyd, a phwy bynnag sy'n derbyn un cyfiawn am ei fod yn un cyfiawn, fe gaiff wobr un cyfiawn. A phwy bynnag a rydd gymaint â chwpanaid o ddŵr oer i un o'r rhai bychain hyn am ei fod yn ddisgybl, yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr.”

Mathew 10:16-42 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Wele, yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yng nghanol bleiddiaid; byddwch chwithau gall fel y seirff, a diniwed fel y colomennod. Eithr ymogelwch rhag dynion; canys hwy a’ch rhoddant chwi i fyny i’r cynghorau, ac a’ch ffrewyllant chwi yn eu synagogau. A chwi a ddygir at lywiawdwyr a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd. Eithr pan y’ch rhoddant chwi i fyny, na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch. Canys nid chwychwi yw’r rhai sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch. A brawd a rydd frawd i fyny i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a godant i fyny yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt. A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig. A phan y’ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i un arall: canys yn wir y dywedaf wrthych, Na orffennwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y dyn. Nid yw’r disgybl yn uwch na’i athro, na’r gwas yn uwch na’i arglwydd. Digon i’r disgybl fod fel ei athro, a’r gwas fel ei arglwydd. Os galwasant berchen y tŷ yn Beelsebub, pa faint mwy ei dylwyth ef? Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegid nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nas gwybyddir. Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a’r hyn a glywch yn y glust, pregethwch ar bennau’r tai. Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern. Oni werthir dau aderyn y to er ffyrling? ac ni syrth un ohonynt ar y ddaear heb eich Tad chwi. Ac y mae, ie, holl wallt eich pen wedi eu cyfrif. Nac ofnwch gan hynny: chwi a delwch fwy na llawer o adar y to. Pwy bynnag gan hynny a’m cyffeso i yng ngŵydd dynion, minnau a’i cyffesaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd: A phwy bynnag a’m gwado i yng ngŵydd dynion, minnau a’i gwadaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddeuthum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf. Canys mi a ddeuthum i osod dyn i ymrafaelio yn erbyn ei dad, a’r ferch yn erbyn ei mam, a’r waudd yn erbyn ei chwegr. A gelynion dyn fydd tylwyth ei dŷ ei hun. Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi: a’r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi. A’r hwn nid yw yn cymryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof fi. Y neb sydd yn cael ei einioes, a’i cyll: a’r neb a gollo ei einioes o’m plegid i, a’i caiff hi. Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i. Y neb sydd yn derbyn proffwyd yn enw proffwyd, a dderbyn wobr proffwyd; a’r neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, a dderbyn wobr un cyfiawn. A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn ffiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei wobr.