“Dyma fi yn eich anfon allan fel defaid i blith bleiddiaid; felly byddwch yn gall fel seirff ac yn ddiniwed fel colomennod. Gochelwch rhag pobl; oherwydd fe'ch traddodant chwi i lysoedd, ac fe'ch fflangellant yn eu synagogau. Cewch eich dwyn o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd o'm hachos i, i ddwyn tystiolaeth iddynt ac i'r Cenhedloedd. Pan draddodant chwi, peidiwch â phryderu pa fodd na pha beth i lefaru, oherwydd fe roddir i chwi y pryd hwnnw eiriau i'w llefaru. Nid chwi sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad sy'n llefaru ynoch chwi. Bradycha brawd ei frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a chyfyd plant yn erbyn eu rhieni a pheri eu lladd. A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i; ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub. Pan erlidiant chwi mewn un dref, ffowch i un arall. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni fyddwch wedi cwblhau trefi Israel cyn dyfod Mab y Dyn.
“Nid yw disgybl yn well na'i athro na gwas yn well na'i feistr. Digon i'r disgybl yw bod fel ei athro, a'r gwas fel ei feistr. Os galwasant feistr y tŷ yn Beelsebwl, pa faint mwy ei deulu?
“Peidiwch â'u hofni hwy. Oherwydd nid oes dim wedi ei guddio na ddatguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod. Yr hyn a ddywedaf wrthych yn y tywyllwch, dywedwch ef yng ngolau dydd; a'r hyn a sibrydir i'ch clust, cyhoeddwch ef ar bennau'r tai. A pheidiwch ag ofni'r rhai sy'n lladd y corff, ond na allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn sy'n gallu dinistrio'r enaid a'r corff yn uffern. Oni werthir dau aderyn y to am geiniog? Eto nid oes un ohonynt yn syrthio i'r ddaear heb eich Tad. Amdanoch chwi, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi'n werth mwy na llawer o adar y to.
“Pwy bynnag fydd yn fy arddel i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu harddel hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Ond pwy bynnag fydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu gwadu hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
“Peidiwch â meddwl mai i ddwyn heddwch i'r ddaear y deuthum; nid i ddwyn heddwch y deuthum ond cleddyf.
Oherwydd deuthum i rannu
“ ‘dyn yn erbyn ei dad,
a merch yn erbyn ei mam,
a merch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith;
a gelynion rhywun fydd ei deulu ei hun’.
“Nid yw'r sawl sy'n caru tad neu fam yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi; ac nid yw'r sawl sy'n caru mab neu ferch yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi. A'r sawl nad yw'n cymryd ei groes ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw'n deilwng ohonof fi. Yr un sy'n ennill ei fywyd a'i cyll, a'r un sy'n colli ei fywyd er fy mwyn i a'i hennill.
“Y mae'r sawl sy'n eich derbyn chwi yn fy nerbyn i, a'r sawl sy'n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i. Pwy bynnag sy'n derbyn proffwyd am ei fod yn broffwyd, fe gaiff wobr proffwyd, a phwy bynnag sy'n derbyn un cyfiawn am ei fod yn un cyfiawn, fe gaiff wobr un cyfiawn. A phwy bynnag a rydd gymaint â chwpanaid o ddŵr oer i un o'r rhai bychain hyn am ei fod yn ddisgybl, yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr.”