Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 9:28-62

Luc 9:28-62 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ynghylch wyth diwrnod wedi iddo ddweud hyn, cymerodd Pedr ac Ioan ac Iago gydag ef a mynd i fyny'r mynydd i weddïo. Tra oedd ef yn gweddïo, newidiodd gwedd ei wyneb a disgleiriodd ei wisg yn llachar wyn. A dyma ddau ddyn yn ymddiddan ag ef; Moses ac Elias oeddent, wedi ymddangos mewn gogoniant ac yn siarad am ei ymadawiad, y weithred yr oedd i'w chyflawni yn Jerwsalem. Yr oedd Pedr a'r rhai oedd gydag ef wedi eu llethu gan gwsg; ond deffroesant a gweld ei ogoniant ef, a'r ddau ddyn oedd yn sefyll gydag ef. Wrth i'r rheini ymadael â Iesu, dywedodd Pedr wrtho, “Meistr, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.” Ni wyddai beth yr oedd yn ei ddweud. Tra oedd yn dweud hyn, daeth cwmwl a chysgodi drostynt, a chydiodd ofn ynddynt wrth iddynt fynd i mewn i'r cwmwl. Yna daeth llais o'r cwmwl yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Etholedig; gwrandewch arno.” Ac wedi i'r llais lefaru cafwyd Iesu wrtho'i hun. A bu'r disgyblion yn ddistaw, heb ddweud wrth neb y pryd hwnnw am yr hyn yr oeddent wedi ei weld. Trannoeth, wedi iddynt ddod i lawr o'r mynydd, daeth tyrfa fawr i'w gyfarfod. A dyma ddyn yn gweiddi o'r dyrfa, “Athro, rwy'n erfyn arnat edrych ar fy mab, gan mai ef yw fy unig fab. Y mae ysbryd yn gafael ynddo ac â bloedd sydyn yn ei gynhyrfu nes ei fod yn malu ewyn; ac y mae'n dal i'w ddirdynnu yn ddiollwng bron. Erfyniais ar dy ddisgyblion ei fwrw allan, ac ni allasant.” Atebodd Iesu, “O genhedlaeth ddi-ffydd a gwyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi ac yn eich goddef? Tyrd â'th fab yma.” Wrth iddo ddod ymlaen bwriodd y cythraul ef ar lawr a'i gynhyrfu; ond ceryddodd Iesu yr ysbryd aflan, ac iacháu'r plentyn a'i roi yn ôl i'w dad. Ac yr oedd pawb yn rhyfeddu at fawredd Duw. A thra oedd pawb yn synnu at ei holl weithredoedd, meddai ef wrth ei ddisgyblion, “Clywch, a chofiwch chwi y geiriau hyn: y mae Mab y Dyn i'w draddodi i ddwylo pobl.” Ond nid oeddent yn deall yr ymadrodd hwn; yr oedd ei ystyr wedi ei guddio oddi wrthynt, fel nad oeddent yn ei ganfod, ac yr oedd arnynt ofn ei holi ynglŷn â'r ymadrodd hwn. Cododd trafodaeth yn eu plith, p'run ohonynt oedd y mwyaf. Ond gwyddai Iesu am feddyliau eu calonnau. Cymerodd blentyn, a'i osod wrth ei ochr, ac meddai wrthynt, “Pwy bynnag sy'n derbyn y plentyn hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i; a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, y mae'n derbyn yr hwn a'm hanfonodd i. Oherwydd y lleiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw sydd fawr.” Atebodd Ioan, “Meistr, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd am nad yw'n dy ddilyn gyda ni.” Ond meddai Iesu wrtho, “Peidiwch â gwahardd, oherwydd y sawl nad yw yn eich erbyn, drosoch chwi y mae.” Pan oedd y dyddiau cyn ei gymryd i fyny yn dirwyn i ben, troes ef ei wyneb i fynd i Jerwsalem, ac anfonodd allan negesyddion o'i flaen. Cychwynasant, a mynd i mewn i bentref yn Samaria i baratoi ar ei gyfer. Ond gwrthododd y bobl ei dderbyn am ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem. Pan welodd ei ddisgyblion, Iago ac Ioan, hyn, meddent, “Arglwydd, a fynni di inni alw tân i lawr o'r nef a'u dinistrio?” Ond troes ef a'u ceryddu. Ac aethant i bentref arall. Pan oeddent ar y ffordd yn teithio, meddai rhywun wrtho, “Canlynaf di lle bynnag yr ei.” Meddai Iesu wrtho, “Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr.” Ac meddai wrth un arall, “Canlyn fi.” Meddai yntau, “Arglwydd, caniatâ imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad.” Ond meddai ef wrtho, “Gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain; dos di a chyhoedda deyrnas Dduw.” Ac meddai un arall, “Canlynaf di, Arglwydd; ond yn gyntaf caniatâ imi ffarwelio â'm teulu.” Ond meddai Iesu wrtho, “Nid yw'r sawl a osododd ei law ar yr aradr, ac sy'n edrych yn ôl, yn addas i deyrnas Dduw.”

Luc 9:28-62 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Tuag wythnos ar ôl iddo ddweud hyn, aeth Iesu i weddïo i ben mynydd, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e. Wrth iddo weddïo newidiodd ei olwg, a throdd ei ddillad yn wyn llachar. A dyma nhw’n gweld dau ddyn, Moses ac Elias, yn sgwrsio gyda Iesu. Roedd hi’n olygfa anhygoel, ac roedden nhw’n siarad am y ffordd roedd Iesu’n mynd i adael y byd, hynny ydy beth oedd ar fin digwydd iddo yn Jerwsalem. Roedd Pedr a’r lleill wedi bod yn teimlo’n gysglyd iawn, ond dyma nhw’n deffro go iawn pan welon nhw ysblander Iesu a’r ddau ddyn yn sefyll gydag e. Pan oedd Moses ac Elias ar fin gadael, dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Feistr, mae’n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches – un i ti, un i Moses ac un i Elias.” (Doedd ganddo ddim syniad wir beth roedd yn ei ddweud!) Tra oedd yn dweud hyn, dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o’u cwmpas. Roedden nhw wedi dychryn wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r cwmwl. A dyma lais yn dod o’r cwmwl a dweud, “Fy Mab i ydy hwn – yr un dw i wedi’i ddewis. Gwrandwch arno!” Ar ôl i’r llais ddweud hyn, roedd Iesu ar ei ben ei hun unwaith eto. Dyma’r lleill yn cadw’n dawel am y peth – ddwedon nhw ddim wrth neb bryd hynny am beth roedden nhw wedi’i weld. Y diwrnod wedyn, pan ddaethon nhw i lawr o’r mynydd, daeth tyrfa fawr i’w gyfarfod. Dyma ryw ddyn yn y dyrfa yn gweiddi ar Iesu, “Athro, dw i’n crefu arnat ti i edrych ar fy mab i – dyma fy unig blentyn i! Mae yna ysbryd yn gafael ynddo’n aml, ac yn sydyn mae’n sgrechian; wedyn mae’r ysbryd yn gwneud iddo gael ffit nes ei fod yn glafoerio. Dydy’r ysbryd prin yn gadael llonydd iddo! Mae’n ei ddinistrio! Rôn i’n crefu ar dy ddisgyblion i’w fwrw allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.” “Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i’n mynd i aros gyda chi a’ch dioddef chi? Tyrd â dy fab yma.” Wrth i’r bachgen ddod ato dyma’r cythraul yn ei fwrw ar lawr mewn ffit epileptig. Ond dyma Iesu’n ceryddu’r ysbryd drwg, iacháu’r bachgen a’i roi yn ôl i’w dad. Roedd pawb wedi’u syfrdanu wrth weld nerth Duw ar waith. Tra oedd pawb wrthi’n rhyfeddu at yr holl bethau roedd Iesu’n eu gwneud, dwedodd wrth ei ddisgyblion, “Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio fy mod i wedi dweud hyn: Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu.” Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth roedd e’n sôn. Roedd yn ddirgelwch iddyn nhw, ac roedden nhw’n methu’n lân a deall beth roedd yn ei olygu, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo am y peth. Dyma’r disgyblion yn dechrau dadlau pwy ohonyn nhw oedd y pwysica. Roedd Iesu’n gwybod beth oedd yn mynd drwy eu meddyliau, a gosododd blentyn bach i sefyll wrth ei ymyl. Yna meddai wrthyn nhw, “Mae pwy bynnag sy’n rhoi croeso i’r plentyn bach yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy’n rhoi croeso i mi yn croesawu’r Un sydd wedi fy anfon i. Mae’r un lleia pwysig ohonoch chi yn bwysig dros ben.” “Feistr,” meddai Ioan, “gwelon ni rywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni’n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o’n criw ni.” “Peidiwch gwneud hynny,” meddai Iesu. “Os ydy rhywun ddim yn eich erbyn chi, mae o’ch plaid chi.” Dyma Iesu’n cychwyn ar y daith i Jerwsalem, gan fod yr amser yn agosáu iddo fynd yn ôl i’r nefoedd. Anfonodd negeswyr o’i flaen, a dyma nhw’n mynd i un o bentrefi Samaria i baratoi ar ei gyfer; ond dyma’r bobl yno yn gwrthod rhoi croeso iddo am ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem. Pan glywodd Iago ac Ioan am hyn, dyma nhw’n dweud wrth Iesu, “Arglwydd, wyt ti am i ni alw tân i lawr o’r nefoedd i’w dinistrio nhw?” A dyma Iesu’n troi atyn nhw a’u ceryddu nhw am ddweud y fath beth. A dyma nhw’n mynd yn eu blaenau i bentref arall. Wrth iddyn nhw gerdded ar hyd y ffordd, dyma rywun yn dweud wrtho, “Dw i’n fodlon dy ddilyn di lle bynnag fyddi di’n mynd!” Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.” Dwedodd Iesu wrth rywun arall, “Tyrd, dilyn fi.” Ond dyma’r dyn yn dweud, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.” Ond ateb Iesu oedd, “Gad i’r rhai sy’n farw eu hunain gladdu eu meirw; dy waith di ydy cyhoeddi fod Duw yn dod i deyrnasu.” Dwedodd rhywun arall wedyn, “Gwna i dy ddilyn di, Arglwydd; ond gad i mi fynd i ffarwelio â’m teulu gyntaf.” Atebodd Iesu, “Dydy’r sawl sy’n gafael yn yr aradr ac yn edrych yn ôl ddim ffit i wasanaethu’r Duw sy’n teyrnasu.”

Luc 9:28-62 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi’r geiriau hyn, gymryd ohono ef Pedr, ac Ioan, ac Iago, a myned i fyny i’r mynydd i weddïo. Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynepryd ef a newidiwyd, a’i wisg oedd yn wen ddisglair. Ac wele, dau ŵr a gydymddiddanodd ag ef, y rhai oedd Moses ac Eleias: Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Jerwsalem. A Phedr, a’r rhai oedd gydag ef, oeddynt wedi trymhau gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a’r ddau ŵr y rhai oedd yn sefyll gydag ef. A bu, a hwy yn ymado oddi wrtho ef, ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd. Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmwl, ac a’u cysgododd hwynt: a hwynt-hwy a ofnasant wrth fyned ohonynt i’r cwmwl. A daeth llef allan o’r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab annwyl; gwrandewch ef. Ac wedi bod y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent. A darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o’r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef. Ac wele, gŵr o’r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr wyf yn atolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig-anedig yw. Ac wele, y mae ysbryd yn ei gymryd ef, ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi; ac y mae’n ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef. Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan; ac nis gallasant. A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi, ac y’ch goddefaf? dwg dy fab yma. Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a’i rhwygodd ef, ac a’i drylliodd: a’r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a’i rhoddes ef i’w dad. A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai’r Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn: canys Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion. Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel nas deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn. A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf ohonynt. A’r Iesu, wrth weled meddwl eu calon hwynt, a gymerth fachgennyn, ac a’i gosododd yn ei ymyl, Ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio’r bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynnag a’m derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw a fydd mawr. Ac Ioan a atebodd ac a ddywedodd, O Feistr, ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid; ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyda ni. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch iddo: canys y neb nid yw i’n herbyn, trosom ni y mae. A bu, pan gyflawnwyd y dyddiau y cymerid ef i fyny, yntau a roddes ei fryd ar fyned i Jerwsalem. Ac efe a ddanfonodd genhadau o flaen ei wyneb: a hwy wedi myned, a aethant i mewn i dref y Samariaid, i baratoi iddo ef. Ac nis derbyniasant hwy ef, oblegid fod ei wyneb ef yn tueddu tua Jerwsalem. A’i ddisgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni di ddywedyd ohonom am ddyfod tân i lawr o’r nef, a’u difa hwynt, megis y gwnaeth Eleias? Ac efe a drodd, ac a’u ceryddodd hwynt; ac a ddywedodd, Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi. Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i’w cadw. A hwy a aethant i dref arall. A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr. Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gad i’r meirw gladdu eu meirw: ond dos di, a phregetha deyrnas Dduw. Ac un arall hefyd a ddywedodd, Mi a’th ddilynaf di, O Arglwydd; ond gad i mi yn gyntaf ganu’n iach i’r rhai sydd yn fy nhŷ. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a’r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o’i ôl, yn gymwys i deyrnas Dduw.